Enghraifft o'r canlynol | cyfnod o amser, Oes yr Iâ |
---|---|
Rhan o | Paleoproterozoic |
Dechreuwyd | Mileniwm 2401. CC |
Daeth i ben | Mileniwm 2101. CC |
Ymestynnodd yr oes rewlifol Hwronaidd (neu'r Rhewlifiad Hwronaidd) o 2,400 miliwn o flynyddoedd yn ôl tan 2,100 m o flynyddoedd yn ôl. Mae'n ymestyn drwy'r cyfnodau daearegol y Sideraidd a'r Rhycaidd o'r era Paleoproterosöig. Digwyddodd y Rhewlifiad Hwronaidd yn union wedi "Digwyddiad Anferthol yr Ocsigen"; digwyddiad pan welwyd cynnydd sydyn yn yr ocsigen yn yr atmosffer a lleihad yn y methan.
Er ffurfio'r Ddaear ar ddechrau'r Eon Hadeaidd oerodd y Ddaear yn araf, dros gyfnod o amser a chafwyd o leiaf 5 Oes yr Iâ sylweddol: yr Hwronaidd, y Cryogenaidd (Cryogenian), yr Andea-Saharaidd (Andean-Saharan), Oes Iâ Karoo a'r Rhewlifiant Cwaternaidd sef yr Oes Iâ rydym yn byw ynddi heddiw. Ar wahân i'r 5 cyfnod hwn, mae'n fwy na phosibl nad oedd rhew yn unman ar y Ddaear yn ystod y cyfnodau eraill.[1][2]
Daw enw'r gorgyfnod hwn o ddarganfyddiadau daearegol pwysig a wnaed yn Llyn Hwron, Gogledd America: sef olion tair haen o dyddodion rhewlifol wedi'u gwahanu gan dyddodion anrhewlifol.