Agriopis leucophaearia | |
---|---|
![]() | |
![]() | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Geometridae |
Llwyth: | Bistonini |
Genws: | Agriopis |
Rhywogaeth: | A. leucophaearia |
Enw deuenwol | |
Agriopis leucophaearia Denis & Schiffermüller, 1775 |
Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw rhisglyn y gwanwyn, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy rhisgl y gwanwyn; yr enw Saesneg yw Spring Usher, a'r enw gwyddonol yw Agriopis leucophaearia.[1][2] Daw'r enw o'r ffaith fod yr oedolyn yn ymddangos allan o'i sach grisial (ei gyflwr chwiler) yn gynharach na'r rhan fwyaf o wyfynod - yn Chwefror.
23–28 mm yw lled adenydd agored yr oedolyn gwryw ond nid oes gan y fenyw adenydd o gwbwl.[3] Mae'r fenyw yn cropian i fyny rhisg y dderwen a hedfana'r gwryw atynt.
Prif fwyd y siani flewog ydy'r dderwen (Quercus).
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r rhisglyn y gwanwyn yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.