Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Uwch y môr | 734 metr |
Cyfesurynnau | 52.814°N 3.802°W |
Cod OS | SH7868325668 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 309 metr |
Rhiant gopa | Arenig Fawr |
Cadwyn fynydd | Eryri |
Mynydd yn ne Gwynedd yw Rhobell Fawr. Daw'r enw o yr + (g)obell ‘cyfrwy’. Saif i'r gogledd-ddwyrain o dref Dolgellau, gyda dyffryn afon Mawddach yn ei wahanu oddi wrth y Rhinogydd ymhellach i'r gorllewin; cyfeiriad grid SH786256. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 425metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf. Mae pentrefi Llanfachreth a Rhydymain i'r de ohono.
Gellir ei ddringo ar hyd llwybrau sy'n dechrau gerllaw Rhydymain neu gerllaw Llanfachreth. Ceir coedwig gonifferaidd drwchus ar y llechweddau isaf. Ar un adeg roedd Rhobell Fawr yn llosgfynydd, a gellir gweld olion hyn ar y creigiau.
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill copaon gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd), Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghyd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 734 metr (2408 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.