Rhodri Williams

Rhodri Williams
Ganwyd10 Mai 1968 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgohebydd chwaraeon, cyflwynydd teledu, person busnes Edit this on Wikidata
TadEuryn Ogwen Williams Edit this on Wikidata
MamJenny Ogwen Edit this on Wikidata

Newyddiadurwr chwaraeon a chyflwynydd o Gymru yw Rhodri Ogwen Williams (ganwyd 10 Mai 1968), sydd fwyaf adnabyddus am ei waith ar sianel chwaraeon Sky.

Ganwyd Williams yn y Barri, Bro Morgannwg, yn fab i'r cyflwynydd Jenny Ogwen.

Ef oedd prif angor sianel Sky Sports News ac un o'r prif gyflwynwyr rygbi yn sylwebu ar Gwpan Heineken a gemau rygbi'r Hemisffer Deheuol gan gynnwys y Tri Nations, yr NPC yn Seland Newydd a'r Cwpan Currie yn Ne Affrice. Cyflwynodd Animal Hospital gyda Rolf Harris ac ef oedd cyflwynydd cyntaf L!VE TV (sianel cebl 24 awr cyntaf Prydain). Mae hefyd wedi cyflwyno nifer o raglenni Cymreig ar S4C.

Cafodd delwedd cyhoeddus glân y cyhoeddwr ei faeddu yn 2005 a diddymwyd ei gytundeb gyda Sky Sports wedi i papur Sul honi fod ganddynt fideo o ef a cyn-gyflwynydd Blue Peter, John Leslie chwarae ogwmpas gyda dynes noeth.[1]

Bu'n gyflwynydd ar raglen chwaraeon cenedlaethol talkSPORT, ar raglen Kick-off a The Sunday Session, a hefyd yn brif angor chwaraeon ar gyfer Setanta Sports. Mae The Sunday Session wedi dod i ben erbyn hyn a caiff Kick-Off ei gyflwyno gan Danny Kelly a Stan Collymore. Bu hefyd yn westeiwr sawl rhaglen ar Setanta Sports News. Cyflwynodd Gwpan Rygbi'r Byd ar gyfer talkSPORT a HTV yn 2007.

Mae hefyd yn ymwneud â tri busnes yng Nghaerdydd, gan gynnwys cyd-berchen ar glwb aelodau The Cameo Clun ym Mhontcanna, Caerdydd.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  Leah Oatway (23 Ebrill 2006). Welsh Baftas mark Rhodri's return. Wales on Sunday.
  2.  Club Class. City Life (2008).

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]