Rhosgroesiaeth

Rhosgroesiaeth
Mathcymdeithas gyfrinachol, mudiad diwylliannol Edit this on Wikidata
SylfaenyddChristian Rosenkreuz Edit this on Wikidata
Enw brodorolRosenkreuzer Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y Rhosgroes

Gellir disgrifio Rhosgroesiaeth fel Cristnogaeth Hermetig. Mae'r mudiad yn ymddangos yn y 15g. Symbol y mudiad oedd y Rhosgroes, sef rhosyn (yn cynrychioli'r enaid) ar groes (yn cynrychioli'r bedair elfen: dŵr, tân, awyr a daear, ac yn adlewyrchu gwreiddiau Cristnogol y mudiad).

Roedd trefniant Rhosgroesiaeth yn ddigon tebyg i Seiryddiaeth Rydd. Roedd yna dri cham ar y llwybr ysbrydol: athroniaeth, y Cabbala, a dwyfol. Roedd gan yr Urdd hefyd dri nod:

  • diddymu monarchiaeth a sefydlu llywodraeth wedi ei harwain gan athronwyr
  • diwygio gwyddoniaeth, athroniaeth a moeseg, a
  • darganfod Panacea, sef ffisig gwyrthiol a allai iachau pob afiechyd.