Vallisneria spiralis | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Monocotau |
Urdd: | Alismatales |
Teulu: | Hydrocharitaceae |
Genws: | Vallisneria |
Rhywogaeth: | V. spiralis |
Enw deuenwol | |
Vallisneria spiralis Carl Linnaeus | |
Cyfystyron | |
|
Planhigyn dyfrol, blodeuol a geir ledled y byd, yn bennaf yn y trofannau yw Rhuban y dŵr sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Hydrocharitaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Vallisneria spiralis a'r enw Saesneg yw Tapegrass.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Ruban y Dŵr.
Tyfant mewn dŵr croyw a dŵr hallt. Gall y dull o beillio fod yn hynod o arbenigol.
Nid yw’r planhigyn yn gynhenid i Brydain. Fe’i defnyddir heddiw mewn acwaria trofannol domestig, ynghyd ag Elodea canadensis, i ocsigeneiddio’r dŵr. Ni wyddus pa mor hen yw’r arfer hwn, ond mae cofnod gan fyfyriwr ysgol Annie Robinson o Swydd Gaer, yn ei hadroddiad ”A Week’s Work in Wales“ (1912), iddi adnabod y ddau blanhigyn yma ym Mhenllyn, Llanberis:
Os cywir ei hadnabod, byddai’r fath blanhigyn lled-drofannol yn llynnoedd Llanberis yn rhyfedd iawn, ond hyd yn oed os anghywir, onid yw cynefindra merch dosbarth canol yn ei harddegau yn 1912 â phlanhigyn o’r fath yn awgrymu ffasiwn o gadw tanciau pysgod trofannol yn nyddiau cynnar cyflenwad cyhoeddus o drydan.[3]