Rhwyf unionsyth

Rhwyf unionsyth yn cael ei berfformio ar beiriant cebl.

Ymarfer hyfforddi gyda phwysau a wneir drwy ddal barbel gyda gafael troslaw a'i godi i fyny'n syth i bont yr ysgwydd ydy rhwyf unionsyth. Ymarfer cyfansawdd ydyw sy'n defnyddio'r trapesiws, y deltoidiaid a'r cyhyryn deuben. Po gulaf yw'r gafael, mwyaf oll y caiff cyhyrau'r traesiws eu hymarfer, yn hytrach na'r deltoidiaid. Gellir defnyddio dymbels, bar cyrlio EZ[1], neu beiriant cebl yn hytrach na barbel cyffredin.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: Rhwyf unionsyth o'r Saesneg "Upright row". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]