Rhyfel Olyniaeth Gwlad Pwyl

Rhyfel Olyniaeth Gwlad Pwyl
Darluniad o warchae Danzig ym 1734, un o brif frwydrau'r rhyfel.
Enghraifft o'r canlynolwar of succession Edit this on Wikidata
Dechreuwyd10 Hydref 1733 Edit this on Wikidata
Daeth i ben3 Hydref 1735 Edit this on Wikidata
LleoliadGwlad Pwyl Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gwrthdaro rhwng pwerau cyfandirol Ewrop dros reolaeth y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd oedd Rhyfel Olyniaeth Gwlad Pwyl a barodd o farwolaeth y Brenin August II ym 1733 i'r cadoediad ym 1735. Y prif gystadleuwyr dros yr orsedd oedd Stanisław Leszczyński, a gefnogwyd gan Ffrainc, ac August III gyda chefnogaeth Rwsia ac Awstria. Daeth y brwydro i ben yn Hydref 1735, a therfynwyd y rhyfel yn ffurfiol gan Gytundeb Heddwch Fienna ym 1738, a gydnabu August III yn wir Frenin Pwyl, ac ildiodd Stanisław Leszczyński ei hawl i'r goron.[1]

Bu farw August II ar 1 Chwefror 1733, ac er iddo adael etifedd cyfreithlon, ei fab August, cafodd yr hwnnw ei herio gan yr ymhonnwr Stanisław Leszczyński, a deyrnasodd yn Frenin Stanisław I o 1704 i 1709 ac a fu'n alltud yn Ffrainc wedi iddo gael ei ddymchwel gan August II. Cefnogwyd Stanisław gan y Ffrancod gyda'r nod o wanychu'r Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd ac i ehangu dylanwad Ffrainc yn Nwyrain Ewrop Sicrhaodd August gefnogaeth Siarl VI, Ymerawdwr Glân Rhufeinig ac Archddug Awstria, drwy gytuno i'r Datganiad Pragmatig, a chytunodd hefyd i gydnabod hawl Rwsia i Ddugiaeth Kurland, gan ennill ffafr yr Ymerodres Anna. Ymgynullodd lluoedd Rwsia yng Ngwlad Pwyl felly, a disgwylid i'r bendefigaeth gadarnhau olyniaeth August heb fawr o stŵr. Fodd bynnag, teithiodd Stanisław yn gudd i Warsaw, ac ar 12 Medi 1733 fe'i etholwyd yn frenin gan fwyafrif o'r uchelwyr yn y Sejm. Anogodd y Rwsiaid i garfan o gefnogwyr August ymhollti a chynnal etholiad arall, ac ar 5 Hydref 1733 fe'i cyhoeddwyd efe hefyd yn frenin. Cychwynnodd y rhyfel olyniaeth pan datganodd Ffrainc ryfel yn erbyn Awstria ac Etholyddiaeth Sachsen.

Datblygodd y gwrthdaro yn rhyfel trwy ddirprwy rhwng breninllinau'r Bourboniaid (Ffrainc a Sbaen gyda chefnogaeth Safwy a Sardinia) a'r Hapsbwrgiaid (Awstria, gyda'i chynghreiriaid Rwsia, Prwsia, a Sachsen). Yn ystod y brwydro, coronwyd August yn frenin yn Kraków ar 17 Ionawr 1734.

Wedi dwy mlynedd o frwydro, cytunwyd ar gadoediad yn Hydref 1735, ac ymddiorseddai Stanisław yn Ionawr 1736. Daeth y rhyfel i ben yn ffurfiol yn sgil arwyddo Cytundeb Fienna ym 1738, a gydnabu August II yn Frenin Pwyl. Cytunodd Stanisław Leszczyński i ildio'i hawl i'r goron, a derbyniodd Ddugiaeth Lorraine yn iawndal.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) War of the Polish Succession. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 4 Hydref 2023.

Darllen pellach

[golygu | golygu cod]
  • John L. Sutton, The King's Honor and the King's Cathedral: The War of the Polish Succession (Lexington, Kentucky: The University Press of Kentucky, 1980).