Enghraifft o'r canlynol | math o ryfel |
---|---|
Math | rhyfel |
Rhyfel lle mae'r cydryfelwyr yn osgoi grym diarbed yn fwriadol yw rhyfel cyfyngedig neu ryfel bach. Gall rhyfel fod yn gyfyngedig o ran amcan, daearyddiaeth, hyd, targedau, neu ddulliau rhyfela ac arfau.[1] Gall rhesymau dros gyfyngu rhyfela gynnwys cadw'r ymladd i ardaloedd penodol, gwella credadwyaeth polisi ataliaeth trwy ddangos parodrwydd i dalu'r pwyth, neu i brofi grym gwrthwynebydd.[2]
Yn aml amcanion rhyfeloedd sydd yn eu cyfyngu, pan mae cydryfelwr yn ystyried buddugoliaeth fel ennill nod(au) penodol yn hytrach na cheisio difrodi llu'r gelyn yn llwyr. Gall amcanion cynnwys ennill neu ad-ennill tiriogaeth benodol, ennill mynediad i adnoddau crai neu lwybrau môr, neu gosbi gwrthwynebwyr. Er enghraifft, yn achos Rhyfel y Falklands amcan y Deyrnas Unedig oedd i ad-ennill Ynysoedd y Falklands, ac amcan yr Ariannin oedd i barhau ei feddiannaeth a gwrthsefyll y lluoedd Prydeinig. Nid oedd unrhyw siawns i'r rhyfel ymledu i diroedd mawr Prydain neu'r Ariannin.[3]
Gelwir rhyfel cyfyngedig gyda'r amcan o gosbi gwladwriaeth yn aml yn lled-ryfel gan fod yr ymladd fel arfer yn neilltuol ac anghydnabyddedig. Enghraifft o hyn yw Rhyfel Tsieina a Fietnam ym 1979, pan gorchmynnodd Gweriniaeth Pobl Tsieina cyrchoedd ar hyd y ffin Tsieino-Fietnamaidd i gosbi Fietnam am feddiannu Cambodia.[4]
Yn ystod y rhyfeloedd gan ddirprwy a ymladdwyd rhwng yr Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd yn ystod y Rhyfel Oer (1945–91), megis Rhyfel Corea, cafodd maes y gad ei gyfyngu i ardaloedd daearyddol benodol. Gan amlaf priodolir dynodiad rhyfel cyfyngedig daearyddol at ryfeloedd sydd yn ymglymu o leiaf un bŵer mawr – os nad oes pŵer mawr, neu os yw pŵer mawr yn brwydro yn erbyn gwladwriaeth gyfagos, fe'i elwir yn rhyfel lleol. Gall rhyfeloedd lleol hefyd fod yn gyfyngedig eu daearyddiaeth, e.e. cyfyngwyd maes Rhyfel India a Pakistan (1947–8) i dalaith Kashmir.[4]
Mae hyd yn gyfyngiad pwysig ar ryfel, a gan amlaf rhyfeloedd rhyngwladwriaethol sydd yn gyfyngedig yn yr ystyr hon. Er gall gwahaniaethau mawr bodoli rhyngddynt, mae gan wladwriaethau statws cyfartal (hynny yw rheolaeth lywodraethol dros eu tiriogaeth a monopoli ar ddefnydd grym) ac o ganlyniad ceir brwydrau tyngedfennol rhwng cydryfelwyr sydd ag adnoddau a dulliau ymladd tebyg, gan arwain at fuddugoliaethau cyflym, er enghraifft y Rhyfel Chwe Diwrnod (mae rhai eithriadau megis Rhyfel Iran ac Irac, a pharhaodd am wyth mlynedd). Ar y llaw arall, mae rhyfeloedd mewnwladwriaethol yn tueddu i bara'n hir, yn bennaf oherwydd y gwahaniaethau mewn grym ac adnoddau sy'n achosi i'r rhyfelwyr iswladwriaethol llai grymus i droi at rhyfela anghonfensiynol, megis tactegau herwfilwrol, i flino'r wladwriaeth rymus, er enghraifft parhaodd yr Helyntion yng Ngogledd Iwerddon am dair degawd. Yn gyffredinol mae rhyfeloedd diarbed yn galluogi i wladwriaethau i fyddino a pharatoi eu hunain am ryfel, tra bo rhyfeloedd cyfyngedig yn dibynnu ar effeithioldeb a maint lluoedd y cydryfelwyr ar y pryd.[5]
Yn fwyfwy yn rhyfela modern cyfyngir ar dargedau milwrol wrth i gydryfelwyr targedu arfau a galluoedd ymladd y gelyn yn hytrach na sifiliaid. Yn ystod y Rhyfel Oer gorchmynodd strategaeth niwclear i arfau niwclear, os cânt eu defnyddio, gael eu targedu at arfau niwclear y gelyn, nid at ardaloedd poblog (er roedd nifer o arweinwyr Ewropeaidd yn dadlau y gall hyn arwain at sefyllfa lle cyfyngwyd rhyfel niwclear i dir Ewrop i osgoi ymosodiadau ar diroedd yr Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd).[5] Ers diwedd y Rhyfel Oer ehangwyd hyn i arfau dinistr torfol eraill, a hefyd rhai arfau confensiynol. Defnyddiodd yr Unol Daleithiau technoleg "glyfar" yn ystod Rhyfel y Gwlff i geisio leihau difrod ystlysol.[6]
Yn ystod y Rhyfel Oer roedd rhyfeloedd gan ddirprwy yr uwchbwerau, megis Rhyfel Corea, yn gyfyngedig gan na ddefnyddiwyd arfau niwclear er yr oedd UDA ac UGSS ill dau yn berchen arnynt. Ers diwedd y Rhyfel Oer mae pryder bod rhyfel niwclear cyfyngedig – hynny yw, rhyfel lle defnyddir rhai arfau niwclear – yn bosib wrth i fwy o wladwriaethau cael gafael ar arfau niwclear. Mewn achos gwladwriaethau anniwclear, mae diffyg defnyddio eu harfau mwyaf dinistriol yn dynodi cyfyngu ar ryfela (felly bydd yn anodd dadlau yr oedd Rhyfel Iran ac Irac yn gyfyngedig o ran arfau gan ddefnyddiodd Irac arfau cemegol yn erbyn Iran).[6]
Gall maint lluoedd hefyd ddynodi cyfyngiadau ar ryfel, er enghraifft Rhyfel Tsieina a Fietnam, Rhyfel y Falklands, a meddiannaeth Israel yn Libanus.[6]
Snyder, Craig A. a Malik, J. Mohan (1999). "Developments in Modern Warfare", gol. Snyder, Craig A.: Contemporary Security and Strategy. Macmillan