Math o gyfrwng | cyfres o ryfeloedd |
---|---|
Rhan o | Rhyfeloedd y Tair Teyrnas |
Dechreuwyd | 21 Mawrth 1639 |
Daeth i ben | Medi 1640 |
Lleoliad | Yr Alban |
Dau gyfnod byr o frwydro rhwng Siarl I, brenin Lloegr a’r Cyfamodwyr yn yr Alban oedd Rhyfeloedd yr Esgobion (1639–40). Achoswyd y gwrthdaro gan ymgais y Brenin Siarl i orfodi Anglicaniaeth ar Deyrnas yr Alban ac i gymryd hen diroedd eglwysig oddi ar bendefigion Albanaidd. Cyflwynwyd addasiad o’r Llyfr Gweddi Cyffredin Saesneg yn yr Alban ym 1637, a sbardunai terfysg yng Nghaeredin. Yn Nhachwedd 1638 pleidleisiodd Cynulliad Cyffredinol Eglwys yr Alban yn Glasgow i ddiddymu’r esgobyddiaeth, ac yn Awst 1639 pasiwyd sawl deddf gan Senedd yr Alban yn groes i orchmynion y brenin. Anfonwyd byddin i'r ffin gan y Brenin Siarl, ond aeth yn fethdalwr cyn i'w filwyr ymladd yr un frwydr.[1] Bu'r Cyfamodwyr yn drech na'r Brenhinwyr Albanaidd mewn sawl ysgarmes, ac arwyddwyd Cytundeb Heddwch Berwick ar 19 Mehefin 1639. Bu’n rhaid i Siarl alw’r Senedd Fer yn Ebrill 1640 i wneud cais am arian, a daeth ei 'reolaeth bersonol' (1629–40) i ddiwedd felly. Yn yr ail ryfel, cipiwyd holl diriogaeth Northumberland a Durham gan y Cyfamodwyr. Gyrrwyd y lluoedd brenhinol ar ffo gan y Cyfamodwyr yn Newburn ar lannau Afon Tyne yn Awst 1640 a bu’n rhaid i Siarl ymbil am heddwch. Heb arian, galwyd y Senedd Hir ganddo yn Nhachwedd 1640.
Rhyfeloedd yr Esgobion oedd y cyntaf o Ryfeloedd y Tair Teyrnas, ac yn un o Ryfeloedd Crefydd Ewrop.