Richard Rolle | |
---|---|
Portread o Richard Rolle mewn llawysgrif o'r 14g. | |
Ganwyd | 1300s Gogledd Swydd Efrog |
Bu farw | 30 Medi 1349 Hampole |
Man preswyl | Hampole |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfieithydd, meudwy, diwinydd |
Dydd gŵyl | 20 Ionawr, 29 Medi, 1 Rhagfyr |
Cyfrinydd a llenor o Loegr oedd Richard Rolle De Hampole (tua 1290 – 29 Medi 1349) sydd yn nodedig am ei ysgrifau sydd yn ymwneud â chyfriniaeth Gristnogol ac asgetigiaeth, yn Saesneg Canol ac yn Lladin.
Daw'r wybodaeth am fywyd Rolle o'r legenda, straeon amdano a gasglwyd wedi ei farwolaeth. Ganed ef yn Thornton-le-Dale yn Swydd Richmond, Esgobaeth Efrog (a leolir heddiw yng Ngogledd Swydd Efrog), Teyrnas Lloegr, yn fab i William Rolle. Derbyniodd elfennau ei addysg wrth yr aelwyd cyn iddo gael ei anfon gan Thomas Neville, Archddiacon Durham, i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen. Gadawodd heb radd, yn 19 oed, am iddo gael ei siomi gan y dysgu seciwlar a'r dadlau academaidd, a throdd at fywoliaeth asgetaidd. Aeth yn feudwy yn gyntaf yn y coedwig ar gyrion tŷ ei dad, yn Thornton-le-Dale. Yn ôl un stori, ceisiodd wneud gwisg fynachaidd allan o hen garpau o'i deulu, ond yr oedd ei abid cyn druenus ag iddo gael ei watwar gan y bobl leol, a ffoes i gychwyn ar ei deithiau.[1]
Wrth weddïo a phrefethu mewn capel preifat mewn pentref cyfagos, o bosib Dalton neu Pickering, gwnaeth Rolle argraff ar ŵr bonheddig lleol, John de Dalton, beili Castell Pickering. Daeth Rolle dan nawdd Dalton, ac aeth yn feudwy ar ei ystad.[1] Mae'n debyg iddo grwydro a symud i feudwyfeydd eraill trwy gydol ei oes, a chadwai Rolle gysylltiadau â chymunedau crefyddol ar draws Gogledd Lloegr.[2] Treuliodd ddiwedd ei oes yn gynghorwr ysbrydol i leiandy'r Sistersiaid yn Hampole, ger Doncaster, yn ne Swydd Efrog, a daeth i adnabod ancres leol o'r enw Margaret Kirby. Yn Hampole bu farw Richard Rolle ar Ŵyl Fihangel, 29 Medi 1349, o bosib o'r pla du.[1][2]
Ymddengys ei ysgrifeniadau mewn rhyw 500 o lawysgrifau cyfoes, ond mae'n anodd weithiau i wahaniaethu rhwng yr hyn sydd yn wreiddiol gan Rolle a gweithiau ei ddilynwyr a dynwaredwyr. Gwaith pwysicaf Rolle ydy'r rhyddiaith ddefosiynol a ysgrifennwyd ganddo yn Saesneg Canol ar gyfer darllenwyr benywaidd. Ei waith unigol amlycaf, fodd bynnag, ydy'r gerdd Pricke of Conscience, crynodeb ar gân o ddiwinyddiaeth Gatholig, yn bennaf edifeirwch. Dyma'r gerdd Saesneg Canol a gopïwyd fynychaf, gan iddi ymddangos mewn 130 o lawysgrifau'r cyfnod. Priodolir iddo hefyd epistolau a thraethodau yn Saesneg Canol a Lladin sydd yn mynegi ei dduwioldeb selog a'i bwyslais ar berlesmair ac undeb cyfriniol gyda Duw. Molir y bywyd asgetaidd—cynhemlad, unigrwydd, tawelwch, myfyrdod, a chrwydraeth—yn ei waith. O ran ei arddull, mae ei ysgrifeniadau Lladin yn dra-rhethregol, ond mae ei ryddiaith Saesneg yn fywiog a llawn perswâd.
Câi Rolle ddylanwad ar lenyddiaeth a chrefydd yn Lloegr hyd at y Diwygiad Protestannaidd. Yn y cyfnod yn syth wedi ei farwolaeth, datblygodd cwlt er anrhydedd "Sant Richard Feudwy", ac aeth lleianod Sistersaidd Hampole ati i lunio'i fywgraffiad (y legenda) a chasglu gweddïau ac emynau ar gyfer gwasanaeth iddo, yn y gobaith y byddai'n cael ei ganoneiddio.[1] Olynwyd Rolle gan sawl cyfrinydd Seisnig o nod yn y 14g a dechrau'r 15g: Walter Hilton, awdur di-enw y gwaith The Cloude of Unknowyng, Julian o Norwich, a Margery Kempe.