Richard Sampson | |
---|---|
Ganwyd | c. 1485 |
Bu farw | 25 Medi 1554 Eccleshall |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad, diplomydd, cyfansoddwr |
Swydd | Esgob Chichester, Esgob Caerlwytgoed |
Roedd Richard Sampson (tua 1485 - 25 Medi 1554) yn offeiriad a chyfansoddwr cerddoriaeth gysegredig o Loegr, a wasanaethodd fel esgob Anglicanaidd Chichester ac wedi hynny Coventry a Chaerlwytgoed. Bu hefyd yn gwasanaethu fel Arglwydd Lywydd Cyngor Cymru a'r Gororau.[1]
Ganwyd Sampson yn Berkshire, yn fab i Robert Sampson ac Anne (née Chatterton) ei wraig. Bu Robert, ei frawd, yn glerc y cyngor i'r brenhinoedd Harri VII a Harri VIII.
Addysgwyd ef yn Trinity Hall, Caergrawnt; y Sorbonne, Paris; Perugia a Sens.[2]
Ym 1513 cipiwyd Tournai yng Ngwlad Belg gan Harri VIII a phenodwyd y Cardinal Wolsey yn Esgob y ddinas.[3] Penodwyd Sampson yn ganghellor esgobaethol a ficer cyffredinol yr esgobaeth, gan Cromwel a bu’n byw yno hyd 1517. Yn Tournai bu Sampson yn chware ran bwysig ym materion diplomyddol Ewrop. Cafodd ei aseinio i lysgenhadaeth i drin gyda Marged o Awstria, Duges Savoie ym Mrwsel ym mis Medi 1514, ac roedd yn rhan o gomisiwn masnach i Fwrgwyn gyda Syr Thomas More, Cuthbert Tunstall, ac eraill (7 neu 8 Mai 1515). Ar 1 Hydref 1515, gydag iarll Caerwrangon a’r Arglwydd Mountjoy, fe wnaeth Sampson drafod gyda’r Ffrancwyr am gystodaeth Tournai. Yn ddiweddarach, gyda Thomas Cromwell a Richard Mayhew, esgob Henffordd, cafodd ei enwi mewn comisiwn i drafod heddwch Ewrop. Cymerodd ran bwysig yn y trafodaethau i ddychwelyd Tournai i'r Ffrancwyr ym 1517.[4] Yn y cyfamser, enillodd ffafriaeth Seisnig, gan ddod yn Ddeon San Steffan, Westminster a'r Capel Brenhinol, Castell Windsor (1516), Archddiacon Cernyw (1517) a phrebendari Newbald (1519).
Ym 1521 penodwyd Sampson i gomisiwn i ymdrin â llyfrau oedd dan amheuaeth o fod yn hereticaidd. Rhwng 1522 a 1525 roedd yn llysgennad Lloegr i'r Ymerawdwr Siarl V. Ym 1525 aeth gyda'r llys ymerodrol, gan ymweld â Madrid a Toledo.
Fe'i penodwyd yn Ddeon Windsor (1523), Ficer Stepney (1526) ac yn brebendari yn Eglwys Gadeiriol St. Paul ac Eglwys Gadeiriol Caerlwytgoed; roedd hefyd yn Archddiacon Suffolk (1529).[5]
Daeth yn un o brif asiantau Harri VIII yn achos yr ysgariad brenhinol, a gynorthwyodd i hyrwyddo ei yrfa eglwysig. Penodwyd ef yn ddeon Caerlwytgoed ym 1533, yn rheithor Hackney (1534), a thrysorydd esgobaeth Caersallog (1535). Ar 11 Mehefin 1536, cafodd ei ethol yn Esgob Chichester. Fel esgob wnaeth hyrwyddo polisi eglwysig Harri, er nid mewn modd ddigon trylwyr i fodloni'r archesgob Thomas Cranmer.[6]
Ym mis Mai 1540, fel rhan o ymgyrch Cromwell yn erbyn ei wrthwynebwyr ceidwadol, arestiwyd Sampson a'i anfon i Dŵr Llundain. Nid oedd llysgennad Ffrainc yn disgwyl i Sampson adael y Tŵr yn fyw, ond cafodd ei achub gan gwymp Cromwell, gan dderbyn pardwn ym mis Awst 1540.[7]
Ar 19 Chwefror 1543, cafodd Sampson ei drosglwyddo i esgobaeth Coventry a Chaerlwytgoed. Yn yr un flwyddyn cafodd ei benodi yn Arglwydd Lywydd Cyngor Cymru a'r Gororau gan dal y swydd hyd 1548. Roedd ei dyletswyddau yng Nghymru yn effeithio ar ei ddyletswyddau fel esgob, a bu'n absennol o'r esgobaeth am y cyfan o'i gyfnod fel Arglwydd Lywydd.
Daliodd ei esgobaeth trwy deyrnasiad Edward VI, er bod Dodd yn dweud iddo gael ei amddifadu am adfer ei ufudd-dod i'r pab.[8]
Ysgrifennodd "Oratio" i amddiffyn yr uchelfraint frenhinol (1534) [9] ac esboniad o'r Salmau (1539-48) ac o Epistol Paul at y Rhufeiniaid (1546).
Bu farw yn Eccleshall yn Swydd Stafford, lle claddwyd ei weddillion.
Teitlau Anrhydeddus | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Rowland Lee |
Llywydd Cyngor Cymru a'r Gororau 1525 - 1534 |
Olynydd: John Dudley, Iarll Warwick |