Richard Wyn Jones | |
---|---|
Ganwyd | 26 Mai 1966, 1966 Sunset Boulevard |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwyddonydd gwleidyddol, political pundit, academydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Methiant Prifysgolion Cymru |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Fellow of the Academy of Social Sciences |
Academydd a sylwebydd gwleidyddol yw Richard Wyn Jones (ganwyd 26 Mai 1966). Yn 2009 cafodd ei benodi'n Gyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru, sy'n adran o fewn Prifysgol Caerdydd ac sydd hefyd a chysylltiad partneriaethol â Senedd Cymru; mae'r Ganolfan wedi'i lleoli, bellach, yn Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd[1]
Mynychodd Ysgol Gyfun David Hughes cyn iddo ddilyn cwrs economeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1984. Graddiodd gyda BSc Econ ac yna MSc Econ mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 1989.
Fe'i penodwyd yn Athro Gwleidyddiaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd yn Chwefror 2009. Cyn hyn roedd yn Gyfarwyddwr sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth. Mae wedi ysgrifennu'n helaeth ar wleidyddiaeth gyfoes Cymru, gwleidyddiaeth ddatganoledig a chenedlaetholdeb. Roedd yn un o sylfaenwyr Critical Security Studies. Ysgrifennodd golofn achlysuol yn Barn, a chyflwynodd ddwy gyfres deledu i'r BBC. Mae hefyd yn sylwebu'n gyson ar faterion gwleidyddol i'r BBC yn Gymraeg ac yn Saesneg[2].