Richelle Mead | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 12 Tachwedd 1976 ![]() Michigan ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llenor, nofelydd, awdur plant ![]() |
Arddull | llenyddiaeth arswyd ![]() |
Gwefan | http://www.richellemead.com/ ![]() |
Awdur nofelau ffantasi o Unol Daleithiau America yw Richelle Mead (ganwyd 12 Tachwedd 1976) sy'n sgwennu, gan mwyaf i blant a phobl ifanc.
Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Michigan, Prifysgol Gorllewin Michigan a Phrifysgol Washington. Mae heddiw'n byw yn Kirkland, Washington (2019).[1][2][3][4][5]
Ymhlith ei gwaith mwyaf poblogaidd mae'r gyfres Georgina Kincaid, Vampire Academy, a chyfres Bloodlines and the Dark Swan.
Mae ganddi dair gradd: Baglor mewn Astudiaethau Cyffredinol o Brifysgol Michigan, Meistr mewn Crefydd Gymharol o Brifysgol Western Michigan, a Meistr Addysgu o Brifysgol Washington.
Daeth yn athrawes gradd 8 yn maestrefol Seattle, wedi iddi adael y coleg; yno, bu’n dysgu astudiaethau cymdeithasol a Saesneg. Parhaodd i ysgrifennu yn ei hamser rhydd, nes iddi werthu ei nofel gyntaf, Succubus Blues. Ar ôl rhoi'r gorau i'w swydd, trodd at sgwennu’n llawn amser, a chyhoeddwyd nifer o lyfrau newydd yn gyflym wedi hynny.[6]