Robert Clive | |
---|---|
Clive o India ar ôl Brwydr Plassey, llun olew gan Francis Hayman | |
Ganwyd | 29 Medi 1725 Swydd Amwythig, Teyrnas Prydain Fawr |
Bu farw | 22 Tachwedd 1774 o gwaediad Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, swyddog milwrol, milwr |
Swydd | Aelod o 11eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 12fed Senedd Prydain Fawr, Aelod o 13eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 14eg Senedd Prydain Fawr, Lord Lieutenant of Shropshire |
Tad | Richard Clive |
Mam | Rebecca Gaskell |
Priod | Margaret Clive |
Plant | Edward Clive, Iarll 1af Powis, Richard Clive, Jane Clive, Rebecca Clive, Charlotte Clive, Margaret Clive, Elizabeth Clive, Robert Clive |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Urdd y Baddon |
Milwr a gweinyddwr enwog o Loegr oedd Robert Clive neu'r Barwn Clive o Plassey (29 Medi 1725 - 22 Tachwedd 1774), a aned ger Market Drayton yn Swydd Amwythig. Ei enw poblogaidd o "Clive o India".
Chwareai ran bwysig yn hanes cynnar Cwmni Dwyrain India. Treuliodd dri chyfnod yn India. Yn ei ail dymor yn y wlad (1753–1760) daeth yn enwog am ei ran yn ail-gipio dinas Calcutta o ddwylo'r gwrthryfelwyr ac yn ddiweddarach am ei fuddugoliaeth enwog yn erbyn Surajah Dowlah, Nawab Bengal, ym Mrwydr Plassey (1757). Am gyfnod roedd yn rheolwr de facto ar Fengal i gyd. Ar ôl dychwelyd i Loegr yn 1760 cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros Amwythig yn 1761 a'i urddo'n farwn gan William Pitt "yr Iau". Yn ei drydydd dymor yn India gosododd sylfeini rheolaeth Prydain ar y wlad i gyd. Cyflawnodd hunanladdiad yn 1774 yn sgîl ffrae hir-dymor am ei weinyddiaeth ar y Cwmni.