Robert Owen | |
---|---|
Ganwyd | Robert Marcus Owen 14 Mai 1771 y Drenewydd |
Bu farw | 17 Tachwedd 1858 y Drenewydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | entrepreneur, economegydd, dyngarwr, gwleidydd, athronydd, brethynnwr, sosialydd, llenor |
Priod | Anne Caroline Owen |
Plant | Robert Dale Owen, Richard Owen, David Dale Owen |
Perthnasau | Constance Faunt Le Roy Runcie |
llofnod | |
Arloesodd Robert Owen (14 Mai 1771 – 17 Tachwedd 1858) y cysyniad o gymuned gyd-weithredol. Roedd yn sosialydd Iwtopiaidd ac yn awdur.
Ganwyd Robert Owen yn y Drenewydd, Powys, yn 1771. Priododd Caroline Dale, merch David Dale a oedd yn berchen ar felinau gwlân yn New Lanark. Prynodd felinau nyddu gwlân eraill yno yn 1799 ac aeth ati i ddiwygio cyfleusterau gwaith y gweithwyr gan leihau eu horiau a darparu gofal meddygol am ddim iddynt. Sefydlodd ysgol hefyd i blant y gweithwyr. Tyfodd y busnes dros y degawdau nesaf nes iddo fod y mwyaf o'i fath yng ngwledydd Prydain. Roedd yn credu'n angerddol ym mhwysigrwydd amgylchedd ac amgylchiadau da i’r gweithwyr, yn wahanol i nifer fawr o berchnogion ffatrioedd eraill.
Galwodd yr adeiladu cymdeithasol hwn yn 'sosialaeth' a chafodd gryn dderbyniad i'w syniadau nes iddo ddechrau beirniadu crefydd a system grefydd y dydd. Gadawodd wledydd Prydain am Indiana yng Ngogledd America yn 1824 gan fuddsoddi ei arian mewn stâd fawr a chychwyn cwmni cydweithredol 'New Harmony'. Erbyn 1827 roedd wedi dychwelyd i wledydd Prydain.
Bu'n ffigwr poblogaidd yn y mudiad undebaeth lafur (1829 - 1835) ac ymwelodd â Pharis yn ystod chwyldro 1848. Ysgrifennodd lyfrau ar hyn, gan gynnwys Essays on the Principle of the Formation of Human Character a A new View of Society.
Ef oedd y 6ed bachgen allan o 7 o blant. Roedd gan ei dad fusnes bychan fel cyfrwywr. Hanai ei fam o deulu ffarmio llewyrchus. Daeth ei addysg i ben pan oedd yn 10 oed. Ar ôl gweithio mewn siop am ychydig symudodd i Fanceinion.
Yn 1858 dychwelodd i'r Drenewydd lle bu farw a chodwyd cofeb iddo yn y dref yn 1902 ym mynwent Eglwys y Santes Fair lle'i claddwyd. Codwyd cerflun iddo yn y dref yn 1956 ac yn 1983 agorwyd amgueddfa goffa iddo.