Math | craig |
---|---|
Poblogaeth | 0 |
Cylchfa amser | UTC±00:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynysoedd Allanol Heledd |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Arwynebedd | 0.0007843 km² |
Uwch y môr | 23 metr |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Cyfesurynnau | 57.5963°N 13.6873°W |
Hyd | 0.031 cilometr |
Ynys fechan yng ngogledd ddwyrain Cefnfor yr Iwerydd yw Rockall.
Saif rhwng Iwerddon a Gwlad yr Iâ - 430 km (270 milltir) i'r gogledd-orllewin o Iwerddon, 460 km (290 milltir) i'r gorllewin o'r Alban a 700 km (440 milltir) i'r de o Wlad yr Iâ.
Ar 18 Medi 1955, disgynnwyd Lieutenant-Commander Desmond Scott RN, Brian Peel RM, Corporal AA Fraser RM, a James Fisher o hofrennydd, ar raff, ar yr ynys. Tridiau wedyn, ar 21 Medi, datganodd Llynges Lloegr ei bod wedi cyfeddiannu'r ynys, a'i bod felly ym meddiant y DU. Ar 7 Tachwedd 1955 dywedodd y Cynghorydd J. Abrach Mackay (84 oed), aelod o'r Clan Mackay, "Hawliai fy Nhad... fod yr ynys yn perthyn i'r teulu, a mynnaf fod Llynges Lloegr yn ei drosglwyddo'n ôl i'r teulu. 'Does ganddyn nhw ddim owns o hawl dros y lle!"[1][2] ni wnaeth Llywodraeth y DU ymateb i'w gais.
Mae Gweriniaeth Iwerddon wedi gwrthod hawl Prydain dros yr ynys, gan fynegi, "which would be the basis for a claim to a 12-mile territorial sea".[3]
Canodd yr Wolfe Tones gân yn 1975 am yr ynys: Rock on, Rockall, a gyfansoddwyd gan B. Warfield.[4][5]
Corws: