Rod Richards | |
---|---|
Ganwyd | Roderick Richards 12 Mawrth 1947 Llanelli |
Bu farw | 13 Gorffennaf 2019 Penarth |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1af, Aelod o'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1af, Leader of the Welsh Conservative Party, Parliamentary Under-Secretary of State for Wales, Parliamentary Under-Secretary of State for Wales |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol, Plaid Annibyniaeth y DU |
Rod Richards | |
---|---|
Aelod o Cynulliad Cenedlaethol Cymru dros Gogledd Cymru | |
Mewn swydd 6 Mai 1999 – 10 Medi 2002 | |
Rhagflaenwyd gan | Sefydlwyd yr etholaeth |
Dilynwyd gan | David Jones |
Arweinydd Plaid Geidwadol Cymru | |
Mewn swydd 12 Mai 1999 – 18 Awst 1999 | |
Arweinydd | William Hague |
Rhagflaenwyd gan | Sefydlwyd y swydd |
Dilynwyd gan | Nick Bourne |
Is-Ysgrifennydd Gwladol Cymru | |
Mewn swydd 20 Gorffennaf 1994 – 2 Mehefin 1996 | |
Prif Weinidog | John Major |
Rhagflaenwyd gan | Nicholas Bennett |
Dilynwyd gan | Jonathan Evans |
Aelod o Senedd dros Gogledd Orllewin Clwyd | |
Mewn swydd 9 Ebrill 1992 – 1 Mai 1997 | |
Rhagflaenwyd gan | Sir Anthony Meyer |
Dilynwyd gan | Diddymwyd y swydd |
Gwleidydd Ceidwadol o Gymro oedd Roderick Richards (12 Mawrth 1947 – 13 Gorffennaf 2019). Ymunodd â UKIP yn 2013. Ef oedd yr Aelod Seneddol Ceidwadol ar gyfer Gogledd Orllewin Clwyd rhwng 1992 a 1997, pan gollodd ei sedd ym muddugoliaeth ysgubol y Blaid Lafur. Ef hefyd oedd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999, ar ôl cael ei ethol yn Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru .
Ganwyd Richards yn Llanelli i Ivor George Richards a Lizzie Jane Richards (nee Evans). Addysgwyd Richards yng Ngholeg Llanymddyfri ac ym Mhrifysgol Abertawe lle enillodd radd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn economeg ac ystadegau. Cyn hynny, roedd wedi treulio peth amser yn y Morlu Brenhinol, gan gynnwys gwasanaeth yng Ngogledd Iwerddon. Gwasanaethodd hefyd ar staff cudd-wybodaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn, a bu'n gweithio fel daroganwr economaidd.[1] Gweithiodd Richards, ar un adeg, i MI-6 [2]
Cododd Richards i amlygrwydd cyhoeddus yn yr 1980au fel darllenydd newyddion Cymraeg i BBC Cymru.
Ceisiodd yn gyntaf ymuno â'r senedd yn etholiad cyffredinol 1987, pan safodd yn aflwyddiannus dros sedd Caerfyrddin, gan roi'r gorau i'w swydd gyda'r BBC i wneud hynny. Bu'n aflwyddiannus eto ddwy flynedd yn ddiweddarach mewn isetholiad ar gyfer Bro Morgannwg, gan roi'r gorau i'w waith unwaith eto fel darlledwr, ond yn etholiad cyffredinol 1992 fe'i hetholwyd yn AS dros gyn sedd seneddol Clwyd North West. Yn ystod llywodraeth John Major, fe'i benodwyd yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat yn y Swyddfa Dramor a Chymanwlad ym 1993 a gweinidog iau y Swyddfa Gymreig ym 1994, ond bu'n rhaid iddo ymddiswyddo ym 1996 pan wynebodd newyddion am berthynas tu allan i'w briodas.[1]
Er iddo gael ei drechu yn ei sedd etholaethol yn ystod etholiadau cyntaf Cynulliad Cymru yn 1999, cafodd ei ethol i'r corff newydd fel yr ymgeisydd cyntaf ar restr rhanbarthol y Ceidwadwyr. Etholwyd ef yn arweinydd y Blaid Geidwadol yn y Cynulliad Cenedlaethol mewn pleidlais o aelodau'r blaid yng Nghymru gan guro Nick Bourne,[1] a oedd yn wybyddus i fod yn ddewis cyntaf William Hague ar gyfer y swydd. Safodd Richards i lawr fel arweinydd ar ôl iddo gael ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol i fenyw ifanc.[1] Yna penodwyd Bourne yn arweinydd gan Hague. Cafodd Richards ei glirio o'r ymosodiad ym mis Mehefin 2000.
Cafodd Richards chwip y parti ei dynnu'n ôl ohono yn dilyn ei benderfyniad i ymatal yn hytrach na phleidleisio gyda'i gyd-Geidwadwyr yn erbyn cyllideb y Cynulliad ar ddiwedd 1999. Parhaodd i eistedd yn y Cynulliad, fel 'Ceidwadwr Annibynnol' tan fis Medi 2002 pan ymddiswyddodd fel Aelod Cynulliad (AC) oherwydd problemau gydag alcohol.[3]
Roedd Richards a'i olynydd, Nick Bourne, yn adnabyddus am gasáu ei gilydd. Mewn un cyfweliad, dywedodd Richards y byddai'n ystyried gwrthwynebu Bourne pe bai'n sefyll dros Gomisiynydd yr Heddlu.[4] Pan gollodd Bourne ei sedd yn etholiad Cynulliad 2011, dyfynnwyd Rod Richards yn y Western Mail gan ddweud, "Mae wedi bod yn wythnos wych, bin Laden ar ddydd Sul, Bourne ar ddydd Gwener." Cafodd Osama bin Laden ei ladd gan luoedd arbennig America yn y dyddiau cyn y diwrnod pleidleisio.[5]
Unwaith y penodwyd Bourne yn arweinydd y blaid gan William Hague, gwrthododd roi portffolio i Richards yn ei ad-drefniad ar 25 Awst, gan ei adael fel yr unig feinciwr cefn Torïaidd yng Nghymru.[6] Dywedodd Richards, "Rydym yn gwbl hapus i barhau i hyrwyddo'r iaith Gymraeg. Ond ni fyddwn yn gwahaniaethu yn erbyn y Cymry hynny nad ydynt yn siarad Cymraeg, nac yn wir unrhyw un arall sy'n dod i fyw yng Nghymru"; ac wrth sôn ar Blaid Cymru, "Maent yn barti gwrth-Brydeinig. Maent yn gwrthod popeth sy'n Brydeinig: ein hanes, ein gwerthoedd, ein cyflawniadau gwych, ein hiaith, yn wir bodolaeth ein teulu Prydeinig... Maent am i Gymru allan o'r Deyrnas Unedig ac i mewn i wladwriaeth Ewropeaidd ffederal. Maen nhw eisiau gwahanu o Loegr fel y gall Cymru gael ei rheoli gan Frwsel. " [2]
Ym mis Gorffennaf 2013, ymunodd Richards â UKIP, ar ôl iddo gael ei "ddadrithio gyda'r prif bleidiau". Gwrthododd ddweud os oedd am geisio am enwebiad UKIP yn etholiad Senedd Ewrop 2014. Gwnaeth yr ASE ar y pryd yng Nghymru, John Bufton, roi'r gorau iddi ym mis Mehefin 2014, gan gael ei ddisodli gan Nathan Gill.[5][7]
Roedd Richards yn briod â seicolegydd, Liz, hyd nes ei ysgariad, ar ôl datgeliadau ym mis Mehefin 1996 o'i berthynas tu allan i'r briodas [8] Mae gan y cwpl dri o blant. [ angen dyfynnu ] Yn 1999, tra'n arweinydd Torïaidd Cymru, fe'i gyhuddwyd o achosi niwed corfforol difrifol i fenyw ifanc ond fe'i rhyddhawyd ar ôl achos llys.[1]
Yn yr Uchel Lys yn Llundain ym mis Chwefror 2003, datganwyd bod Richards yn fethdalwr gyda dyledion a amcangyfrifwyd yn fwy na £300,000, wedi methu ad-daliadau o fenthyciad oedd wedi gymeryd ar gyfer tafarn roedd yn berchen yn Ystradgynlais.[3]
Adroddwyd ar 17 Ebrill 2008 bod Richards wedi cael ei arestio mewn cysylltiad ag ymosodiad honedig ar weithiwr i'r Blaid Geidwadol.[9] Fe'i rhyddhawyd yn ddiweddarach ar ôl derbyn rhybudd gan yr heddlu. Aeth Richards yn ddig pan ddywedodd y cynghorydd, a oedd yn canfasio o ddrws i ddrws, wrtho nad oedd wedi derbyn llenyddiaeth hyrwyddo gan ei fod eisoes wedi'i restru fel aelod blaenllaw o'r blaid. Pan holwyd yn ddiweddarach am y digwyddiad, dywedodd Richards ei fod wedi rhoi "clip o amgylch y glust" i'r cynghorydd ifanc, a oedd yn "hanner ei oed a dwywaith ei faint", am "fod yn ddigywilydd". Priodolodd y digwyddiad i ddiffyg cwsg.[10]
Bu farw ar 13 Gorffennaf 2019 yn hospis Marie Curie ym Mhenarth wedi brwydr hir gyda chanser.[10][11] Cynhaliwyd gwasanaeth goffa iddo ar 30 Gorffennaf 2019 yn Eglwys Gadeiriol Llandaf.[12]
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Syr Anthony Meyer |
Aelod Seneddol dros Orllewin Clwyd 1992 – 1997 |
Olynydd: Rod Richards |
Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
Rhagflaenydd: swydd newydd |
Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru 1999–2002 |
Olynydd: David Jones |
Swyddi gwleidyddol | ||
Rhagflaenydd: swydd newydd |
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad Cenedlaethol 1999 - 1999 |
Olynydd: Nick Bourne |