Roger Lloyd-Pack | |
---|---|
Ganwyd | 8 Chwefror 1944 Islington |
Bu farw | 15 Ionawr 2014 Kentish Town |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor, actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu |
Tad | Charles Lloyd Pack |
Priod | Jehane Markham |
Plant | Emily Lloyd |
Actor o Sais oedd Roger Lloyd-Pack (8 Chwefror 1944 – 15 Ionawr 2014).[1] Tad yr actores Emily Lloyd oedd ef.
Fe'i ganwyd yn Islington, Llundain, yn fab yr actor Charles Lloyd Pack a'i wraig Ulrike Elizabeth (née Pulay). Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Bedales.
Bu farw o ganser yn ei gartref yn Kentish Town, Llundain.