Rolant | |
---|---|
Ganwyd | 737 |
Bu farw | 15 Awst 778 o lladdwyd mewn brwydr Ronsyfál |
Dinasyddiaeth | Francia |
Galwedigaeth | marchog |
Swydd | Prefect of the Breton March |
Partner | Aude |
Uchelwr a milwr Ffrancaidd, un o gadfridogion Siarlymaen a chymeriad yn llenyddiaeth y Canol Oesoedd oedd Rolant (bu farw 15 Awst 778) (Ffrangeg: Roland, Ffranceg: Hruodland). Ef yw arwr y gerdd ganoloesol La chanson de Roland.
Roedd y Rolant hanesyddol yn un o'r paladiniaid, y milwyr oedd agosaf at y brenin, ac yn dal y swydd o lywodraethwr Mers Llydaw. Ar 15 Awst 778, ef oedd pennaeth ôl-fyddin Siarlymaen, oedd yn dychwelyd dros y Pyreneau o Sbaen i Ffrainc. Pan oeddynt yn mynd trwy Fwlch Ronsyfal, ymosodwyd arnynt gan lu y Basgiaid, a lladdwyd Rolant a'i wŷr ym Mrwydr Ronsyfal.
Tyfodd chwedloniaeth o gylch y digwyddiad yn ystod y Canol Oesoedd, a chymerwyd lle'r Basgiaid gan y Mwslimiaid, gan droi'r stori yn un am frwydr rhwng Cristionogion a dilynwyr Islam. Yn y chwedlau hyn, daeth Rolant yn gawr, a adawodd ei olion yma ac acw yn y Pyreneau.
Daeth y chwedlau am Siarlymaen a Rolant yn boblogaidd trwy Ewrop, ac fe'i cyfieithwyd i'r Gymraeg fel Ystorya de Carolo Magno.
Mae Cân Roland, sy'n adrodd hanes Rolant a Brwydr Ronsyfal yn cael ei gynnwys yn llyfr T Rowland Hughes Storïau Mawr y Byd[1]