Ronan Huon | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 3 Awst 1922 ![]() Saint-Omer ![]() |
Bu farw | 18 Hydref 2003 ![]() Brest ![]() |
Dinasyddiaeth | Ffrainc ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, golygydd ![]() |
Plant | Tudual Huon ![]() |
Awdur, cyhoeddwr, ymgyrchydd ac athro o Lydaw oedd Ronan Huon (3 Awst 1922 – 18 Hydref 2003).
Fe anwyd Ronan Huon, a elwir hefyd yn René Huon, ar 3 Awst 1922 yn Saint-Omer, ger Lille yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc. 'Roedd yn awdur, ymgyrchydd a golygydd y Llydaweg. Ef sefydlodd Kamp Etrekeltiek ar Vrezhonegerien, KEAV, a fu'n fodd i gannoedd o oedolion i fedru dysgu'r iaith. Bu'n gyfarwyddwr a phrif olygydd y cylchgrawn dylanwadol Al Liamm am dros hanner can mlynedd. Cydnabyddir Huon am ei gyfraniad pwysig i'r Llydaweg a'i llenyddiaeth.
Roedd rhieni Huon yn dod yn wreiddiol o orllewin Llydaw, o Trégor. Treuliai ei hafau yno gyda'i daid a'i nain a oedd yn “Brezhonegerien” (siaradwyr Llydaweg). Symudodd y teulu yn ôl i Lydaw pan oedd yn ddwy flwydd oed. Dechreuodd ddysgu Llydaweg yn ffurfiol pan oedd yn 17 oed. Addysgwyd ef yn Lannuon ac ym Mhrifysgol Roazhon, (Rennes) lle enillodd radd mewn Saesneg a Diploma mewn Astudiaethau Celtaidd. Yn ystod blwyddyn fel athro yn Abertawe, llwyddodd i wella ei Gymraeg. Dychwelodd o Gymru yn 1949, a bu'n athro Saesneg o fri yn Brest, lle arhosodd tan ddiwedd ei oes. 'Roedd wedi dysgu elfennau'r Gymraeg ac edmygai'r sustem addysgol yng Nghymru a oedd yn caniatáu dysgu'r Gymraeg mewn ysgolion, yn wahanol i'r system uniaith ganolog yn Ffrainc.
Yn 1945, wedi’r ‘’Liberation’’, ynghyd â Pol Le Gourrierec, sefydlodd y cylchgrawn, Tir na nÓg. Parhaodd hyn â thraddodiadau y cylchrawn Llenyddol Gwalarn, a lansiwyd gan Roparz Hemon yn 1925, a gaewyd ym 1944. Yn 1948, cyd-sefydlodd y cylchgrawn, Al Liamm (Y Cwlwm); unodd y cylchgronau hyn yn 1949 dan yr un enw Al Liamm. Cyfarwyddodd a golygodd yr cylchgrawn hwn am tua hanner canrif, heb nawdd cyhoeddus. Hefyd cyfarwyddodd cwmni Al Liamm, y cyhoeddwr llyfrau Llydewig mwyaf.
Chwareuodd cylchgrawn Al Liamm a'r tua 200 o deitlau llyfrau rôl canolog i’r iaith wedi’r rhyfel. Yn ôl Meic Stephens “ gan o bosibl arbed Llydaweg rhag diflannu”.
Maent yn cynrychioli'r gweithgaredd cyhoeddi mwyaf parhaol yn Llydaweg ers 1945, gan ysgogi llawer o gyfnodolion newydd ers y 1960au. Rhwng 1985 a 1997, bu Huon yn Llywydd y “Gymdeithas des Editeurs de Bretagne”, ac yn gweithio gydag awduron newydd i gynyddu argaeledd llyfrau yn Llydaweg. Yn 2000, unwyd cyhoeddwyr Al Liamm gan An Here. Cwblhaodd a diweddarodd Huon eiriadur Roparz Hemon o Lydaweg-Ffrangeg a Ffrangeg-Llydaweg, llyfr a werthodd dros 100,000 o gopïau.
Fel awdur, cyhoeddwyd gasgliad o gerddi: “Evidon Va-Unan” (I fi fy Hun), a dau gasgliad o straeon byrion: “An Irin Glas” (Yr Eirin Chwerw) ac “Ur Vouezh Er Vorenn” (Llais yn y Niwl). Cyfieithodd hefyd o'r Gymraeg, yn enwedig straeon byrion Kate Roberts, ac o’r Saesneg. Ysgrifennodd neu gyfranodd fel golygydd at lyfrau dysgu a gramadegau Llydaweg, a Blodeugerdd ysgrifennu diweddar yn Llydaweg, yn 1984.
Yn 1992, derbyniodd wobr Urzh an Erminig (Ordre de l'Hermine) am lafur ei fywyd. Roedd Huon yn briod ag Elen Ar Meliner; roedd ganddynt bedwar mab, daeth Tudual Huon, cymerodd ei le efo cylchgrawn Al Liamm wedi ei farwolaeth. Bu farw yn Brest.
• Evidon Va-Unan (I Fi fy Hun), a gyhoeddwyd gan Al Liamm, Brest, 1955 a 1976 (cerddi) • An Irin Glas (Yr Eirin Tagu) “Sloes”, a gyhoeddwyd gan Al Liamm, Brest, 1966 a 1971 (straeon byrion) • Ur Vouezh Er Vorenn (Llais yn y Niwl), a gyhoeddwyd gan Al Liamm, Brest, 1980 (straeon byrion)
Diwrnod Gwlyb; Diwedd y Dydd; Gwraig Fach Fitw ; Cân i Lawenydd, yn cynnwys pedair stori gan Ronan Huon, cyfieithwyd y pedair gan Rita Williams