Rosa Schapire | |
---|---|
Ganwyd | 9 Medi 1874 Brody |
Bu farw | 1 Chwefror 1954 Tate Britain |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | hanesydd celf, cyfieithydd, llenor |
Awdur a model Pwylaidd a fu'n byw yn yr Almaen oedd Rosa Schapire (9 Medi 1874 - 1 Chwefror 1954) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel hanesydd celf a chyfieithydd. Roedd yn un o'r cyntaf i gydnabod pwysigrwydd y grŵp o arlunwyr a elwid yn "Die Brücke".
Fe'i ganed yn Brody yng ngorllewin yr Wcráin ond a oedd ar ddydd ei geni yn rhan o'r Ymerodraeth Awstriaidd; bu farw yn Llundain.[1][2][3][4][5]
Roedd yn ferch i ddau Iddew cyfoethog, a chafodd ei haddysgu gan diwtor preifat. Yn 1893, symudodd y teulu i Hamburg. Yn 1897, cyhoeddodd Ein Wort zur Frauenemanzipation (Gair ar Ryddfreinio Menywod). Astudiodd hanes celf, gan dderbyn gradd israddedig o Brifysgol Bern ym 1902 cyn ennill PhD o Brifysgol Heidelberg ym 1904. Dilynodd Schapire astudiaethau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Leipzig.[6][7]
Ar ôl iddi ddychwelyd i Hamburg ym 1908, gweithiodd fel cyfieithydd a chyhoeddodd feirniadaeth lenyddol. Cyfieithodd Balzac, Zola a'r hanesydd celf Pwylaidd Kazimierz Chledowski [pl] i'r Almaeneg.
Cynorthwyodd i sefydlu Frauenbund zur Förderung deutscher bildenden Kunst (Cymdeithas y Merched er Hyrwyddo Celfyddyd yr Almaen) yn 1916.[6][7]
Eisteddodd Schapire fel model ar gyfer gwahanol arlunwyr. Gwnaeth Karl Schmidt-Rottluff (o'r grŵp Brücke) sawl portread ohoni gan gynnwys un yn 1919. Peintiodd Walter Gramatté hi ym 1920 ac yn 1924, cyhoeddodd Rosa Schapire gatalog o weithiau graffig Karl Schmidt-Rottluff.[6]
Yn 1939, llwyddodd i ddianc o'r Almaen i Loegr lle cyfrannodd at wahanol gylchgronau celf, fel Architectural Review, Eidos, Connoisseur a Die Weltkunst [Almaeneg]. Bu hefyd yn cynorthwyo Nikolaus Pevsner gyda chasgliad o ddeunydd ar gyfer ei gyfres The Buildings of England.[7][8]