Rosencrantz a Guildenstern

Cymeriadau yn nhrasiedi fawr William Shakespeare, Hamlet yw Rosencrantz a Guildenstern. Maent yn gyfeillion bore oes i'r tywysog Hamlet, a wysiwyd gan y Brenin Claudius i dynnu sylw'r tywysog oddi wrth ei wallgofrwydd ymddangosiadol ac i ganfod achos ei boen meddwl. Cafodd y cymeriadau eu hadfywio yn nychan W.S Gilbert, Rosencrantz a Guildenstern, ac fel arwyr drama abswrdaidd Tom Stoppard, Rosencrantz and Guildenstern Are Dead, gafodd ei addasu yn ffilm lwyddianus.

Hamlet Shakespeare

[golygu | golygu cod]

Roedd Rosencrantz ("torch o rosod") a Gyldenstjerne / Gyllenstierna ("seren euraidd") yn enwau ar deuluoedd bonheddig Denmarc (a Norwyaidd, a Sweden) o'r 16eg ganrif; mae cofnodion brenhinol Denmarc ym 1596 yn dangos bod un rhan o ddeg o'r aristocratiaid a gymerodd ran yn y coroni yn dwyn y naill enw neu'r llall. [1] Mae James Voelkel yn awgrymu bod y cymeriadau wedi'u henwi ar ôl Frederik Rosenkrantz a Knud Gyldenstierne, cefndryd Tycho Brahe a oedd wedi ymweld â Lloegr yn 1592. [2]

Mae gan y mwyafrif o gymeriadau Hamlet enwau clasurol, ar wahan i enwau "Danaidd" Rosencrantz a Guildenstern. Roedd yr enwau yn gyffredin yn llys Frederick II a Christian IV, ac hefyd ym Mhrifysgol Wittenberg, sefydliad lle enwir Hamlet fel un a astudiodd yno (cyfeiria atynt fel "fy nau gymrawd ysgol"). [3]

Ymddangosiadau

[golygu | golygu cod]

Yn Hamlet, mae Rosencrantz a Guildenstern yn ymddangos fel pâr bob amser, ac eithrio rhai testunau sy'n dilyn y Ffolio Cyntaf, lle mae Guildenstern yn camu i'r llwyfan bedair llinell ar ôl Rosencrantz yn Act IV, Golygfa 3. [1]

Mae'r ddau ŵr y llys yn ymddangos gyntaf yn Act II, Golygfa 2, lle maent yn ceisio ennill hyder y Tywysog Hamlet, eu ffrind o fore oes. Mae'r iaith lyfn a chwrtais a ddefnyddiant yn eu nodweddu ar unwaith fel canmolwyr [sycophants ][1] ac eto fe ŵyr y gynulleidfa eu bod yn gwasanaethu fel ysbiwyr i'r brenin llygredig Claudius, ewythr Hamlet. Ef a drawsfeddiannodd yr orsedd ac sy'n ceisio atal ei nai yn gyson rhag ad-ennill brenhiniaeth ei dad. Mae Hamlet yn eu croesawu fel "ffrindiau rhagorol o dda", ond, o weld trwy eu gochl, mae'n dweud na fyddant yn "delio'n gyfiawn" ag ef am eu cenhadaeth. [1] Gan sylweddoli nad oes ganddo gynghreiriaid ac eithrio Horatio, mae Hamlet yn rhoi'r araith "What a piece of work is a man" i Rosencrantz a Guildenstern. [1]

Yn Act III, mae'n ymddangos bod Hamlet yn ail feddwl ei gyfeillgarwch ffug, gan ddiswyddo'r ddau yn ddiseremoni yng Ngolygfa 2. Mae'n dweud wrth ei fam, yng Ngolygfa 4 "I will trust [them] as I will adders fang'd."

Pan lleddir Polonius gan Hamlet, mae Claudius yn rhoi Rosencrantz a Guildenstern ar waith i hebrwng Hamlet i Loegr, gan roi llythyr iddynt at sylw Brenin Lloegr - llythyr sy'n rhoi cyfarwyddyd iddo i ladd Hamlet. (Mae'n ymddangos nad ydynt yn ymwybodol o gynnwys y llythyr, er nad yw Shakespeare yn datgan hynny'n benodol.) Yn ystod y daith, mae'r Hamlet drwgdybus yn canfod y llythyr ac yn ei ailysgrifennu, gan gyfarwyddo'r dienyddiwr i ladd Rosencrantz a Guildenstern yn hytrach nag ef ei hun. Pan fydd môr-ladron yn ymosod ar eu llong, mae Hamlet yn dychwelyd i Ddenmarc, gan adael Rosencrantz a Guildenstern i farw; dywed yn Act V, Golygfa 2, "They are not near my conscience; their defeat / Does by their own insinuation grow." Mae llygenhadon yn ddiweddarach yn y ddrama yn cyhoeddi "Rosencrantz and Guildenstern are dead."

Swyddogaeth

[golygu | golygu cod]

Fel dau asiant o'r llygredd sy'n heintio'r llys, mae Rosencrantz a Guildenstern yn cyfrannu at sefydlu'r gwrthdaro rhwng Hamlet a Claudius. [1] Mae Shakespeare yn disgwyl i'r gynulleidfa werthfawrogi cyfiawnder barddonol eu marwolaethau; [1] fod y ddau wedi talu'r pennyd am fod yn rhan o gynllun marwol Claudius, er bod tro yn y gynffon honno yn ddiarwybod iddynt.

Rosencrantz Gilbert a Guildenstern

[golygu | golygu cod]

Comedi yw drama W.S Gilbert (1874) lle mae Rosencrantz yn cynllwynio gyda'i ffrind Guildenstern i gael gwared ar Hamlet, fel y gall Rosencrantz briodi Ophelia . Maent yn darganfod bod Claudius wedi ysgrifennu drama. Mae gwaith llenyddol y brenin mor chwithig o ddrwg nes bod Claudius yn datgan na chaiff neb sôn am y ddrama. Dienyddiad fydd y gosb. Mae'r ddau yn canfod y llawysgrif ac yn perswadio Hamlet i'w pherfformio. Pan fydd yntau yn cytuno, mae Claudius yn gorchymyn bod yn rhaid iddo farw, ond yn y pen draw caiff ei berswadio i'w alltudio i Loegr. Mae hyn yn galluogi Rosencrantz ac Ophelia i fod gyda'i gilydd.

Rosencrantz and Guildenstern Are Dead - Tom Stoppard

[golygu | golygu cod]

Fel prif gymeriadau drama (a ffilm) Tom Stoppard, mae'r ddau gymeriad wedi drysu'n lân ac yn anymwybodol o’u rôl yn y ddrama fawr. Comedi yw drama Stoppard yn bennaf, ond maen nhw’n aml yn dadorchuddio gwirioneddau athronyddol dwfn drwy grwydro’n ddisynnwyr. Yn y ffilm, mae Rosencrantz yn dyfeisio'r frechdan, ac yn darganfod disgyrchiant ymhlith pethau eraill.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 Boyce, Charles (2005). Critical Companion to William Shakespeare: A Literary Reference to His Life and Work. Facts On File, Inc. t. 154. ISBN 0-8160-5373-1.
  2. Voelkel, James (1999). Johannes Kepler and the new astronomy. Oxford University Press, USA. t. 53. ISBN 0-19-515021-X.
  3. Harold Jenkins (1982). "Longer Notes". Hamlet. Arden Shakespeare. Methuen. t. 422. ISBN 0-416-17920-7.