Rouzan al-Najjar | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | روزان أشرف عبد القادر النجار ![]() 13 Medi 1997 ![]() Khan Yunis ![]() |
Bu farw | 1 Mehefin 2018 ![]() Khuza'a, Khan Yunis ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | parafeddyg, nyrs, gweithiwr yn y byd meddygol ![]() |
Parafeddyg a nyrs Palesteinaidd oedd Rouzan Ashraf Abdul Qadir al-Najjar (13 Medi 1997 – 1 Mehefin 2018) a laddwyd yn fwriadol gan Luoedd Amddiffyn Israel (IDF) tra'n gwirfoddoli fel parafeddyg ar ffin Gaza 2018. Roedd yn ugain oed. Ei henw mewn Arabeg yw رزان أشراف عبد القادر النجار .[1] Cafodd ei tharo gan fwled a daniwyd gan filwr o Israel wrth iddi geisio helpu clwyfedigion ger ffens y ffin rhwng Llain Gaza ac Israel.[1][2][3]
Ar y cychwyn, gwadodd yr IDF ei bod yn darged, gan ddweud efallai iddi gael ei tharo'n anfwriadol. Yn ôl y grŵp dyngarol, Israelaidd B'Tselem, saethwyd al-Najjar yn fwriadol.[4][5]
Hi oedd yr hynaf o chwe phlentyn a anwyd i Ashraf al-Najjar, ei mam, a fagwyd ym mhentref Khuzaa, ger y ffin rhwng Llain Gaza ac Israel.[1]
Rhyddhaodd yr IDF ffilmiau, a oedd, yn ôl yr IDF yn dangos iddi gymryd rhan yn y protestiadau ar gais Hamas. Yn ddiweddarach, canfuwyd bod y fideo yn glip o gyfweliad â gorsaf deledu Libanus a oedd wedi'i golygu gan yr IDF lle cymerwyd sylwadau al-Najjar allan o gyd-destun. Yn y fideo heb ei olygu, ni soniodd al-Najjar am Hamas a galwodd ei hun yn "darian dynol i amddiffyn ac achub y clwyfedig yn y llinellau blaen", gyda phopeth yn dilyn "darian ddynol" yn cael ei docio allan o'r clip gan Israel. Cafodd yr IDF ei feirniadu'n eang am y twyll hwn o ymyrryd â'r fideo er mwyn ei phardduo.[6][6][7][7]
Yn ôl llygaid-dystion, saethwyd al-Najjar tra roedd hi a sawl parafeddyg arall yn cerdded mewn iwnifform parafeddygon gwyn gyda'u breichiau i fyny i gyfeiriad cleifion a oedd newydd eu saethu gan filwyr Israel.[7]
Ar 2 Mehefin 2018 cafwyd datganiad gan asiantaethau a oedd yn gysylltiedig gyda'r U.N., yn Efrog Newydd, yn mynegi eu haniddigrwydd am ei marwolaeth, gan ddweud fod hi'n "amlwg fod al-Najjar yn barafeddyg" a bod saethu al-Najjar yn gywilyddus (was "particularly reprehensible" oedd y geiriad). Trydarodd Cydlynydd yr U.N. yn y Dwyrain Canol amdani, gan ddweud "Medical workers are #NotATarget!".[8][9][10]
Ar Fehefin 1, cafwyd cynnig gan Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig a oedd yn condemnio Israel am ddefnyddio "grym gormodol, anghymesur ac anwahaniaethol" (gwreiddiol: "excessive, disproportionate and indiscriminate force") yn erbyn protestwyr Palestinaidd ger ffens y ffin. Pleidleisiodd Unol Daleithiau America yn erbyn y cynnig, felly ni chafodd ei dderbyn.[10][11]
|date=
(help)