Enghraifft o'r canlynol | corff llywodraethu chwaraeon rhyngwladol, corff llywodraethol rygbi'r undeb |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2 Ionawr 1934 |
Sylfaenydd | Italian Rugby Federation, French Rugby Federation, Swedish Rugby Union, German Rugby Federation, Romanian Rugby Federation, Portuguese Rugby Federation, Rugby Nederland, Spanish Rugby Federation, Belgian Rugby Federation, Catalan rugby union federation |
Aelod o'r canlynol | World Rugby |
Ffurf gyfreithiol | association déclarée |
Pencadlys | Paris |
Gwladwriaeth | Ffrainc |
Gwefan | https://www.rugbyeurope.eu/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rugby Europe ("Rygbi Ewrop"), a elwid gynt yn Gymdeithas Rygbi Ewrop (FIRA - AER), yw'r corff sy'n cyd-lynnu rygbi'r undeb yn Ewrop, 47 o gymdeithasau cenedlaethol yn aelodau ohoni. Mae "Rugby Europe" (arddelir y term Saesneg yn unig), yn ei dro, yn gysylltiedig â World Rugby, olynydd y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol (IRB), corff llywodraethu rygbi ledled y byd fel un o'r 6 chymdeithas ranbarthol, cyfandirol.[1]
Mae sefydlu Rugby Europe yn adlewyrchu gwleidyddiaeth rygbi fel gêm rynglwadol, ei thŵf a'r dadleuon dros dalu chwaraewyr i chwarae'r gamp.
Ym 1931, gwaharddwyd Ffederasiwn Rygbi Ffrainc (FFR) rhag chwarae'r Pum Gwlad oherwydd bod awdurdodau chwaraeon wedi amau ers amser bod y (FFR) yn caniatáu proffesiynoldeb. O ganlyniad, sefydlodd Ffrainc, ynghyd â'r Eidal, Sbaen, Catalwnia, Gwlad Belg, Portiwgal, Romania, yr Iseldiroedd a'r Almaen, Gymdeithas Rygbi Rhyngwladol Amatur (Fédération internationale de rugby amateur, FIRA) ym 1934,[2] a ddyluniwyd i drefnu'r gystadleuaeth rygbi y tu allan i awdurdod y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol (fel y'i gelwid ar y pryd).[3][4][5]
Yn yr 1990au cydnabuwyd yr IRB fel corff llywodraethu rygbi yn y byd ac ar ôl trafodaethau, cytunodd FIRA i ymuno â'r sefydliad. Yn 1999 newidiwyd yr enw i "FIRA - Cymdeithas Rygbi Ewrop" (FIRA-AER) i hyrwyddo a llywodraethu'r undeb rygbi yn y gofod Ewropeaidd a rhedeg Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd.
Ym mis Mehefin 2014, yn ystod confensiwn blynyddol FIRA-AER yn Split, Croatia, penderfynwyd newid enw'r sefydliad i Rugby Europe i roi enw byr, mwy adnabyddadwy iddo [6] gan arddel yr enw Seasneg yn unig.
Nid yw pob aelod yn aelod o World Rugby. Diweddarwyd 2019.[7]
Ceir 40 aelod World Rugby
Ceir saith aelod o Rugby Europe nad sy'n aelodau o World Rugby:
Ceir chwe gwlad Ewropeaidd sydd ddim ar hyn o'r bryd yn gysylltiedig ag unau Rugby Europe na World Rugby:
Twrnament | Tymor ddiwethaf | Pencampwyr |
---|---|---|
Pencampwriaethau Rhyngwladol Rugby Europe 1A Pencampwriaeth (Championship) | RE Championship 2019 | Georgia |
Rugby Europe 1B Tlws (Trophy) | RE Trophy 2018-19 | Portiwgal |
Rugby Europe International Championships 2A Cynhadledd (Conference) | RE Conference 2017-18 | Lithwania |
RE International Championships Datblygu (Development) | RE Development 2017-18 | Bwlgaria |
RE dan-20 Championship | RE dan-20 Championship 2019 | Portiwgal (M20) |
Rugby Europe dan-18 Championship | Rugby Europe dan-18 Championship 2018 | Georgia (M18) |
Twrnament | Tymor ddiwethaf | Pencampwyr |
---|---|---|
European Championship Menywod | European Championship Menywod 2019 | Sbaen |
Cynheir hefyd cystadlaethau rygbi saith bob ochr.
Twrnament | Tymor ddiwethaf | Pencampwyr |
---|---|---|
"Sevens Grand Prix Series" | 2018" | Iwerddon Nodyn:Country data Irlanda |
Twrnament | Tymor ddiwethaf | Pencampwyr |
---|---|---|
Sevens Grand Prix Series Menywod | 2018 | Rwsia |
|periódico=
ignored (help); Check date values in: |access-date=, |date=
(help)
|obra=
ignored (|work=
suggested) (help)