Mae Russell Joseph Howard[1] (ganed 23 Mawrth1980)[2] yn gomedïwr, cyflwynydd teledu a radio, ac actor o Loegr. Fe'i adnabyddir am ei ymddangosiadau ar y rhaglen banel bynciol Mock the Week, ac am ei raglen deledu Russell Howard's Good News. Yn ôl Howard, mae'r comedïwyr Lee Evans, Richard Pryor a Frank Skinner wedi dylanwadu ar ei waith.[3]
Ganwyd Howard ym Mryste yn fab i Dave a Ninette Howard. Mae ei chwaer a brawd iau, o'r enwau Kerry a Daniel, yn efeilliaid.[4] Mynychodd Ysgol Perins a Choleg Alton yn Hampshire cyn mynd yn ei flaen i astudio economeg ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste.[5] Mae Howard yn byw gyda'i gariad Cerys sy'n feddyg. Maent yn byw yn Leamington Spa, Swydd Warwick gyda'u ci o'r enw Archie.[6][7] Mae Howard yn cefnogi Clwb Pêl-droed Lerpŵl a chwaraeodd dros Clwb Pêl-droed Basingstoke Town cyn dod yn gomedïwr.[8]
Rhwng 2006 a 2010, yr oedd Howard yn banelydd rheolaidd ar Mock the Week ar BBC Two. Rhwng 2006 a 2008 yr oedd hefyd yn gyflwynydd ar y rhaglen radio wythnosol The Russell Howard Show ar BBC Radio 6 Music.[9][10] Ers 2009, y mae wedi bod yn cyflwyno'r gyfres gomedi Russell Howard's Good News, yn gyntaf ar BBC Three, ac wedyn ar BBC Two.[11][12] Pleidleisiwyd y rhaglen fel y Rhaglen BBC Three Orau Erioed ym mis Chwefror 2013.[13] Ym mis Rhagfyr 2015, gwnaeth Howard ei ddebut actio yn A Gert Lush Christmas ar BBC Two, rhaglen yr oedd hefyd yn cyd-ysgriennu. Mae Howard hefyd wrthi ar hyn o bryd yn cyflwyno ail gyfres Russell Howard's Stand Up Central ar Comedy Central. Bydd hefyd yn cyflwyno'r gyfres o raglenni dogfen teithio gyda'i fam, Travels With My Mum In The US, ar yr un sianel.[14]
Roedd Howard ar daith yn 2007 gyda'i sioe Adventures a ryddhawyd ar DVD o dan y teitl Russell Howard Live.[15] Dechreuoedd ar daith gyda'i ail sioe Dingledodies yn 2008[16], cyn dychweld gyda thrydedd sioe yn 2009 o'r enw Big Rooms and Belly Laughs.[17] Roedd un arall yn 2011 o'r enw Right Here Right Now, ac yn 2014 aeth ar daith eto gyda'i sioe Wonderbox.[18] Bydd yn dychwelyd i'r llwyfan yn 2017 gyda'i sioe Round The World, taith a fydd yn ymweld â'r Deyrnas Unedig, Iwerddon, Ewrop, Awstralia, Seland Newydd a'r Unol Daleithiau.[19]