Ruth Rehmann | |
---|---|
Ganwyd | 1922 Siegburg |
Bu farw | 29 Ionawr 2016 Trostberg |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Galwedigaeth | cyfieithydd, llenor |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Georg Mackensen, Gwobr Rosenheim am Lenyddiaeth, Y Wobr dros Wyddoniaeth a Llenyddiaeth, Croes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen |
Awdures o'r Almaen oedd Ruth Rehmann (1922 - 29 Ionawr 2016) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cyfieithydd.[1][2]
Fe'i ganed yn Siegburg yn nhalaith Nordrhein-Westfalen yn yr Almaen a bu farw yn Trostberg, Bafaria.[3][4][5][6][7][8]
Roedd yn ferch i weinidog lleol. Astudiodd yn Hamburg gyda'r nod o ddod yn gyfieithydd ac yna astudiodd hanes celf, llenyddiaeth Almaeneg a cherddoriaeth. Yn ystod y 1950au, bu’n gweithio fel feiolinydd, fel athrawes ac fel ysgrifennydd y wasg yn llysgenadaethau America ac India. Yn 1983, rhedodd Rehmann fel ymgeisydd y Blaid Werdd am sedd yn y Bundestag.[9]
Ym 1959, cyhoeddodd Rehmann ei nofel gyntaf Illusionen ('Rhithiau'). Denodd lawer o sylw pan ddarllenodd bennod o'r llyfr hwnnw yng nghynhadledd Grŵp 47 ym 1958. Enillodd ei hail nofel Die Leute im Tal ('Y Bobl yn y Dyffryn') y wobr gyntaf mewn cystadleuaeth lenyddiaeth.
Bu'n aelod o Academi Celfyddydau Cain Bafaria am rai blynyddoedd.
1962: Gwobr Dinas Hannover 1974: Gwobr Llenyddiaeth Georg Mackensen (ynghyd â Dieter Kühn) 1989: Gwobr Llenyddiaeth y Kulturkreis der deutschen Wirtschaft yn Ffederasiwn Diwydiant yr Almaen 2001: Croes Teilyngdod Ffederal [3] 2004: Gwobr Diwylliant Bafaria Uchaf 2010: Gwobr Pro meritis Scientiae et litterarum yn Nhalaith Rydd Bafaria. 2010: Gwobr Llenyddiaeth Rosenheim