Math | llyn artiffisial |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Rutland |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 10.86 km² |
Uwch y môr | 85 metr |
Cyfesurynnau | 52.67°N 0.67°W |
Cod OS | SK90450646 |
Statws treftadaeth | safle Ramsar |
Manylion | |
Cronfa ddŵr yn Rutland, Dwyrain Canolbarth Lloegr, yw Rutland Water. Mae'n gorwedd yn nyffryn Afon Gwash yng nghanol y sir i'r dwyrain o dref Oakham. Yn ôl arwynebedd, dyma'r gronfa ddŵr fwyaf yn Lloegr, ond o ran ei chynhwysedd rhagorir arni gan Kielder Water yn Northumberland.
Crëwyd y gronfa ddŵr trwy adeiladu argae ger pentref Empingham. Cafodd pentrefan Nether Hambleton a'r mwyafrif o Middle Hambleton eu dymchwel fel rhan o'r gwaith, a gwblhawyd ym 1975. Mae'r gronfa ddŵr yn cael ei llenwi trwy bwmpio o Afon Nene ac Afon Welland, ac mae'n darparu dŵr i Ddwyrain Canolbarth Lloegr.
Yn ogystal â storio dŵr, mae'r gronfa yn ganolfan chwaraeon boblogaidd - gall ymwelwyr hwylio, pysgota, cerdded a beicio ar hyd trac perimedr 25 milltir (40 km). Mae ardaloedd mawr o wlyptir (yn ogystal â nifer o goedwigoedd bach) ym mhen gorllewinol y llyn sy'n ffurfio gwarchodfa natur, a reolir gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Swydd Gaerlŷr a Rutland. Mae’r ardal wedi’i dynodi’n Ardal Gwarchodaeth Arbennig (SPA) o bwysigrwydd rhyngwladol oherwydd ei phoblogaethau o hwyaid llwyd a hwyaid llydanbig sy'n gaeafu yno. Cafodd gweilch y pysgod eu hailgyflwyno i'r llyn ym 1996.[1]