Ryan Coogler | |
---|---|
Ganwyd | 23 Mai 1986 Oakland |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, llenor, cynhyrchydd ffilm, cyfarwyddwr |
Adnabyddus am | Space Jam: a New Legacy, Black Panther |
Gwobr/au | U.S. Grand Jury Prize: Dramatic, Q6084873, Independent Spirit Award for Best First Feature, Gwobr Time 100 |
Mae Ryan Kyle Coogler (ganed 23 Mai 1986)[1] yn gyfarwyddwr a sgriptiwr ffilm o'r Unol Daleithiau. Enillodd ei ffilm gyntaf, Fruitvale Station (2013), y gwobrau gorau o'r gynulleidfa a'r uchel reithgor yng nghystadleuaeth ddramatig yr Unol Daleithiau yn yr Ŵyl Ffilmiau Sundance 2013.[2] Ers hynny, mae wedi cyd-sgriptio a chyfarwyddo'r seithfed ffilm yn y gyfres ffilmiau Rocky, Creed (2015) a ffilm y Bydysawd Sinematig Marvel Black Panther (2018).
Cydweithia'n gyson gyda'r actor Michael B. Jordan, sydd wedi ymddangos ym mhob o'i ffilmiau.[3]