Un o chwaraeon mwyaf boblogaidd Cymru, a ystyriwyd yn hanesyddol fel y gêm genedlaethol yw rygbi'r undeb yng Nghymru.[1][2] Undeb Rygbi Cymru yw corff rheoli'r gêm, sy'n berchen ar Stadiwm y Mileniwm, cae cartref y tîm cenedlaethol. Rhestrir Cymru yn yr haen uchaf gan y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol, ac mae Cymru'n cystadlu'n flydnyddol ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, ac ym mhob Cwpan Rygbi'r Byd. Y person tywyll cyntaf i chwarae gêm o rygbi'r Undeb dros Gymru oedd Mark Brown, a hynny ar 11 Tachwedd 1983.[3]
Y brif gystadleuaeth fewnol yw'r Guinness Pro12 (yn hanesyddol y Gynghrair Geltaidd): mae pedwar tîm o Gymru yn y gynghrair hon sy'n cystadlu'n erbyn ei gilydd a chlybiau o Iwerddon, yr Alban a'r Eidal. Cystadleir timau Cymreig hefyd yng Nghwpan Pencampwyr Rygbi Ewrop, Cwpan Her Rygbi Ewrop, a gyda thimau Lloegr yn y Gwpan Eingl-Gymreig.
O dan y Pro12, cynrychiolir rygbi'r clybiau gan fwy na 200 o glybiau cyswllt ag Undeb Rygbi Cymru sy'n chwarae ym Mhrif Adran Cymru a'r cynghreiriau adrannol is.
Sefydlwyd clybiau rygbi mewn trefi ar draws Cymru, gan gynnwys nifer o gymunedau'r pyllau glo, yn ystod y 1870au a'r 1880au. Datblygodd y gêm yn rhan bwysig o ddiwylliant y dosbarth gweithiol yn ne Cymru, gan ei gwahaniaethu o'i chysylltiad â'r ysgolion bonedd a phrifysgolion mewn rhannau eraill o Brydain. Erbyn troad y ganrif roedd rygbi'n ganolbwynt i fath newydd o genedlaetholdeb Cymreig poblogaidd, yn enwedig yn wyneb niferoedd uchel o fewnfudwyr i'r wlad.[4] Yn wahanol i'r drefn yn Lloegr, datblygodd diwylliant mwy gystadlaethol i'r gêm gan dimau lleol Cymru. Cynhaliwyd Cwpan Her De Cymru rhwng 1878 a 1897, a datblygodd system gynghrair answyddogol erbyn y 1930au.
Yn fuan daeth Cymru yn un o'r timau goruchaf ar y llwyfan ryngwladol. Sefydlwyd Undeb Rygbi Cymru ym 1881,[5] ac ymunodd Cymru â Phencampwriaeth y Gwledydd Cartref gan gystadlu'n erbyn Lloegr, Iwerddon a'r Alban. Cymru oedd yr unig dîm i drechu Seland Newydd pan ymwelodd y Crysau Duon â Phrydain ac Iwerddon yn gyntaf ym 1905.
Dalai'r gêm ei safle mewn hunaniaeth genedlaethol trwy gydol yr 20g, yn enwedig oes aur y 1960au a'r 1970au. Caeodd nifer o byllau glo'r de yn ystod y 1980au gan ddifetha'r cymunedau oedd yn grud a chartref i rygbi'r undeb yng Nghymru ers canrif. Ers y cyfnod hwnnw, cryn ymdrech mae i Gymru geisio adennill ei safle fel un o dimau goruchaf y byd.[4]
Mae tîm rygbi saith bob ochr Cymru yn cystadlu fel un o'r 12 o dimau craidd yng Nghyfres IRB Rygbi Saith Bob Ochr y Byd pob blwyddyn. Enillodd Cymru cystadleuaeth saith bob ochr Cwpan Rygbi'r Byd yn 2009.