Rómulo Macció | |
---|---|
Ffugenw | Maccio, Romulo |
Ganwyd | 1931 Buenos Aires |
Bu farw | 11 Mawrth 2016 Buenos Aires |
Dinasyddiaeth | yr Ariannin |
Galwedigaeth | arlunydd, drafftsmon |
Roedd Rómulo Macció (29 Ebrill 1931 - 11 Mawrth 2016) yn arlunydd o'r Ariannin a oedd yn gysylltiedig â'r mudiad celf avant-garde yn ei wlad enedigol a datblygodd yn ystod y 1960au.[1]
Yn enedigol o Buenos Aires, ddatblygodd Macció ddiddordeb cynnar mewn darlunio, roedd yn hunan addysgedig a chafodd ei logi fel dylunydd graffeg yn bedair ar ddeg oed. Erbyn canol ei hugeiniau roedd wedi ennill rhywfaint o enwogrwydd, a chafodd yr arddangosfa gyntaf o'i waith ei gynnal yn Galeria Gatea, Buenos Aires ym 1956. Daeth celf haniaethol weledol hyf Macció ag ef i sylw pobl megis y pensaer Clorindo Testa a'r cyflunydd Rogelio Polesello a wahoddodd ef i ymuno â'r Grŵp Boa, un o nifer o gylchoedd deallusol a oedd dylanwadu ar fywyd diwylliannol yr Ariannin ar y pryd. Fel aelod o grŵp o saith arlunydd haniaethol a oedd yn cynnwys Jorge de la Vega, Ernesto Deirangly, Enrique Sobisch a Luis Felipe Noé fe ddaeth Macció yn un o arloeswr y mudiad neo-ffigurol a oedd yn ysgubo celfyddyd America Ladin y 1960au.[2]
Roedd Macció yn disgrifio ei hun fel rebel yn erbyn estheteg mewn celf, a chondemniodd llawer o'r portreadau a thirluniau parchus a oedd yn amlwg yng nghelf ei gyfnod fel dim namyn Siocled Pinc.
Roedd llawer o weithiau Macció yn portreadu artaith gan gynnwys darluniau o bobl oedd yn aml y meirw neu'n marw ac yn cael eu gosod yn erbyn cefndir a oedd yn awgrymu llygredd trefol a dirywiad. Bu ei waith mwy diweddar yn tueddu i ganolbwyntio ar broblemau cymdeithasol.[3]
Mae gwaith Macció yn parhau i gael ei arddangos yn amlwg yn orielau'r Ariannin, yr Unol Daleithiau ac Ewrop. Mae nifer o'i weithiau yng nghasgliadau parhaol Amgueddfa Genedlaethol y Celfyddydau Cain yn Buenos Aires, Amgueddfa Gelf Blanton ac Amgueddfa a Gardd Cerfluniau Hirshhorn yn Washington DC . Cyhoeddwyd wyth llyfr o werthfawrogiad o'i waith ers 1969.
Derbyniodd gwobr Konex am y celfyddydau gweledol ym 1982, 1992 a 2002 sef gwobr a gyflwynir i'r pum gwaith celf gorau o'r Ariannin a grëwyd yn ystod y ddegawd flaenorol.
Bu farw Macció ar 11 Mawrth 2016 yn 84 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Cementerio de la Recoleta, Buenos Aires.[4]