Enghraifft o'r canlynol | teaching script, Ysgrifen redeg, handwriting style, bicameral script |
---|---|
Crëwr | Ludwig Sütterlin |
Iaith | Almaeneg |
Dechrau/Sefydlu | 1915 |
Daeth i ben | 1970s |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Arddull ysgrifennu a ddefnyddiwyd yn hanner cyntaf yr 20g yn yr Almaen yw Sütterlin neu, yn Almaeneg, Sütterlinschrift (ffont Sütterlin). Prin iawn y'i defnyddir ers yr Ail Ryfel Byd. Dyma'r fersiwn olaf o'r hen deip nodweddiadol, Kurrent Almaenig, sy'n seiliedig ar lawysgrifen a theip 'Fraktur' (neu sgript Gothig neu Blackletter o roi enwau eraill ar yr arddull).
Crewyd y ffont ysgrifen gan Ludwig Sütterlin (1865 - 1917), yn 1911. Ganed Sütterlin yn Lahr yn ardal y Fforest Ddu ond symudodd yn ddyn ifanc i weithio fel dylunydd graffig yn Berlin.
Bwriad Sütterlin oedd creu gwyddor fyddai'n hawdd i blant ysgol ei dysgu a'i defnyddio gan gadw at gymesuredd, onglau ac ystumiau cyson.
Trwy gydol yr 19g bu dadlau chwyrn yn y tiroedd Almaenig ar sut i ysgrifennu'r iaith Almaeneg. Gelwir hyn yn aml yn 'Ddadl Antiqua-Fraktur'.
Yn sgil Rhyfeloedd Napoleon cysylltwyd y llawygrifen 'Lladin' neu ffont 'Antiqua' syml, gyda'r Ffrancwyr, ac felly, yn an-Almaeneig. Ffafriwyd y ffont 'Fraktur' a elwir hefyd yn 'sgript Gothig' neu'n 'Blackletter'. Gwrthododd, Bismark, Canghellor yr Almaen, â derbyn llyfrau wedi'u hargraffu mewn teip Lladin gan fynnu derbyn llyfrau wedi'u hargraffu mewn print Fraktur Almaeneig: "Deutsche Bücher in lateinischen Buchstaben lese ich nicht!" (llyfrau Almaeneg mewn llythrennau Lladin ddarllennaf i fyth!).[1]
Roedd hi'n gyffredin i eiriaduron Saesneg-Almaeneg, er enghraifft, argraffu geiriau Saesneg mewn teip Antiqua a geiriau Almaeneg mewn Fraktur, a hynny ochr yn ochr.
Yn 1911 comisiynwyd Sütterlin gan Weinyddiaeth Gwyddoniaeth, Celf a Diwylliant Prwsia (Preußisches Ministerium für Wissenschaft, Kunst und Volksbildung) i greu sgript llawysgrifen gyfoes. Mabwysiadwyd ei sgript gan Prwsia yn 1915 gan ledu ymhlith taleithiau'r Ymerodraeth Almaenig. Disodlodd yr 'hen' sgript a ddysgwyd yn yr ysgolion cyn hynny, sef, Kurrent. Roedd sgript Sütterlin yn addasiad ar Kurrent. Mabwysiadwyd hi ddim yn Awstria a barhaodd i ddysgu Kurrent. Yn 1935 daeth sgrip Sütterlin yr unig ffordd o ddysgu ysgrifennu yn yr Almaen (er nad oedd Hitler yn hoff o'r arfer). Dyma oedd y sgript a ddysgwyd yn yr ysgolion hyd nes 1941.
Wedi dadlau yn erbyn sgriptiau Antiqua a rhai cyfoes fel Helvetica ar sail ei 'Iddewiaeth' honedig, baniwyd y Sütterlinschrift mewn taflenni gan y Natsiaid drwy ddeddf gan Martin Bormann ar 3 Ionawr 1941. Cafwyd ail ddeddf ar 1 Medi 1941 i ddisodli'r Sutterlinschrift yn y dosbarth. O hynny ymlaen, dysgwyd yr hyn a elwyd yn 'deutsche Normalschrifft', sef Antiqua. Gwelwyd bod nifer cynyddol o frodorion y tiroedd a feddianwyd gan y Natsiaid yn cael trafferth darllen sgript Fraktur. Er mai Bormann arwyddodd y ddeddf i beidio defnyddio Fraktur mae'n amlwg fod Hitler yn ei gefnogi gan iddo yntau ddangos ei wrthwynebiad i Fraktur mor gynnar â 1934 ond iddo benderfynu peidio ymgyrchu yn ei erbyn. Meddai Hitler mewn datganiad yn y Reichstag ar 7 Medi 1934,
Dydy'ch mewnblygrwydd Gothig honedig ddim yn cydfynd gyda'r oes yma o ddur ac haearn, gwydr a choncrit, prydferthwch benywaidd a chryfder gwrol, o ben wedi ei chodi'n uchel â bwriad di-ildio ... Mewn can mlynedd, ein hiaith bydd iaith Ewrop. Bydd y cenhedloedd i'r dwyrain, i'r gogledd ac i'r gorllewin yn cyfathrebu gyda ni, dysgu ein hiaith. Yn cynsail i hyn: Disodli y sgript a elwir yn Gothig gan y sgript a alwn yn Lladin hyd yma ...
Baniwyd pob sgript Fraktur, gan gynnwys Sütterlin, a'u disodli gan lythrennau teip-Lladin fel Antiqua. Parhwyd i ddysgu Sütterlinschrift mewn rhai ysgolion Almaeneg hyd at yr 1970au ond dydy bellach ddim yn sgript boblogaidd. Cymaint felly, fel nad yw cenhedlaethau a addysgwyd wedi'r Ail Ryfel Byd yn gallu darllen y llawysgrifen yn hawdd.
Bydd sawl llythren Sütterlin yn ymddangos yn estron i'r darllenydd cyfoes. Eto, ni fuasai mor anghyffredin i'r Almaenwyr yn 1915. Gwelir, e.e., fod ffurf y llythyren 'e' Sütterlin yn addasiad ar y llythyren yn y teip Fraktur.
Mae 'e fach' Sütterlin yn cynnwys dau far fertigol yn agos at ei gilydd, a gwelir yma wreiddyn yr umlaut (¨) a seilir ar e fach uwch ben y llafariad. Seilir Sütterlin ar ffontiau llawysgrifen ac argraffu Almaeneg Blackletter megis Fraktur neu Schwabacher, a ddefnyddiwyd cyn Sütterlin ac yn ystod yr un cyfnod i wahanol raddau.
Roedd hefyd ganddo'r s hir (ſ), yn ogystal â sawl confensiwn safonol arall yn ymwneud â chlymlythrennau megis ff (f-f), ſt (ſ-t), st (s-t), a ß (ſ-z neu ſ-s).
Bellach, am fod ffont Fraktur mor anghyfarwydd, defnyddir rhai o'r llythrennau at ddibenion eraill, megis 'd fach' Kurrent a Sütterlin a ddefnyddir fel symbol 'dilëir' gan brawf-ddarllenwyr.