Enghraifft o'r canlynol | passenger vessel, agerlong, amgueddfa annibynnol, museum ship, preserved watercraft |
---|---|
Gwlad | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Perchennog | Great Western Steamship Company |
Yn cynnwys | hwylbren SS Great Britain,Victory Green, Stanley, Ynysoedd y Falklands |
Gweithredwr | Great Western Steamship Company |
Gwneuthurwr | William Patterson Shipbuilders |
Enw brodorol | SS Great Britain |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Dinas Bryste |
Hyd | 98.15 metr |
Gwefan | https://www.ssgreatbritain.org/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyn-agerlong yw SS Great Britain, sydd nawr yn amgueddfa forwol. Roedd y llong yn o flaen ei oes, yn defnyddio technolegau newydd am y tro cyntaf, a hi oedd llong deithiwr hiraf y byd rhwng 1845 ac 1854. Cafodd ei ddylunio gan Isambard Kingdom Brunel ar gyfer wasanaeth trawsatlantaidd y Great Western Steamship Company rhwng Bryste ac Efrog Newydd. Tra oedd llongau eraill wedi'i greu o haearn, hi oedd yr un cyntaf i ddefnyddio propelor sgriw. Hi oedd yr agerlong haearn cyntaf i groesi cefnfor yr Iwerydd, gwnaeth hyn yn 1845 mewn 14 diwrnod. Mae gan y llong hyd 322 ft (98m) a dadleoliad 3,400 tunnell. Roedd ganddo bedwar bwrdd long a darparodd preswyl ar gyfer criw o 120 person, a chabannau ar gyfer 360 o deithwyr, yn cynnwys lle ar gyfer ciniawa.
Pan gafodd ei lansio ym 1843 SS Great Britain oedd y llong fwyaf o bell mewn gwasanaeth. Ond oherwydd ei amser adeiladu disgwyliedig (chwe blwyddyn o 1836-1845) a'i chost uchel, gadawodd hi ei pherchnogion mewn sefyllfa ariannol anodd, ac o ganlyniad aethant allan o fusnes yn 1846. Yn ddiweddarach cariodd SS Great Britain miloedd o ymfudwyr i Awstralia o 1852 nes cafodd ei addasu i long hwylio yn 1881. Tair blwyddyn yn ddiweddarach cafodd ei ymddeol yn Ynysoedd y Falklands, lle ddefnyddiwyd hi fel ystordy, llong cwarantîn, a llong foel glo. Cafwyd ei suddo yn fwriadol ym 1937, 98 flwyddyn ar ôl dechrau ei adeiladu.[1]
Ym 1970, 33 blwyddyn ar ôl iddi gael ei chyfradael a gorwedd ar waelod y môr, talodd Sir Jack Arnold Hayward, OBE (1923-2015) i godi a thrwsio'r llong er mwyn ei dowio yn ôl i Fryste. Nawr mae'n rhan o'r Fflyd Hanesyddol Genedlaethol, ac y mae'n atyniad twristiaid ac amgueddfa, yn denu rhwng 150,000 a 200,000 ymwelwyr y flwyddyn.
Lansiwyd y llong ar 19 Gorffennaf 1843. Cyrhaeddodd y Tywysog Albert i orsaf y Great Western Railway am 10am ar y trên brenhinol o Lundain, a chyfarwyddwyd gan Brunel ei hun. Roedd gosgordd er anrhydedd iddo wedi'i gyfansoddi o aelodau'r heddlu, milwyr, a dragwniaid. Wrth i'r Tywysog ymadael y trên chwaraeodd band cyfansoddiadau gan Labitsky a chasgliad o'r "Ballet of Alma". Gwneir cyflwyniadau, a chyfeiriad i'r Tywysog gan glerc y dref, D. Burgess, ac roedd areithiau gan aelodau o offeiriaid Bryste. Yna cafodd y parti brenhinol brecwast, ac ar ôl 20 munud ymddangoson nhw eto mewn ceir a cheffylau. Cyrhaeddodd y tywysog y llong am hanner dydd, ond erbyn hynny roedd y llong wedi'i ei lansio'n barod, ac oedd yn aros am yr archwiliad brenhinol. Aeth ar y llong ar gyfer yr archwiliad, a chafodd ei groesawu yn ystafell cinio'r llong.[2]
Ar ôl y cinio gadawodd am y seremoni enwi. Byddai Clarissa (1790-1868), mam aelod seneddol Briste Philip William Skinner Miles (1816-1881), yn perfformio'r bedydd. Pan daflodd hi'r potel siampên i flaen y llong roedd y llong barod wedi dechrau gadael y porth, a chwmpodd 3m yn fryn. Yn gloi cipiodd y Tywysog Albert potel arall o siampên a daflodd yn erbyn corff y llong yn lwyddiannus.[3]
Cafodd yr SS Great Britain nifer o swyddi yn ystod ei bywyd, dros sban o 47 taith:
Roedd prosiect achub y llong yn bosib diolch i nifer o gyfraniadau ariannol mawr, yn cynnwys gan Sir Jack Hayward a Sir Paul Getty. Siarterwyd ysgraff ymsuddol, y Mulus III, a chwch tynnu Almaeneg, y Varius II, ym mis Chwefror 1970. Cyrhaeddon nhw Bort Stanley ar 25 Mawrth 1970. Erbyn 13 Ebrill llwyddwyd rhoi SS Great Britain ar ben yr ysgraff, a theithiodd y tair ohonynt yn ôl o Bort Stanley. Gwnaeth y daith nôl i Brydain dechrau ar 24 Ebrill, yn stopio ym Montevideo, Dociau Barri, ac yna Dociau Avonmouth.[7]
Erbyn 1998 dangosodd archwiliad bod corff y llong dal i rydu, ac ond 25 blwyddyn oedd ar ôl nes iddo rydu'n llwyr[8]. Felly dechreuodd gwaith cadwraeth ar y corff, gan gynnwys rhoi rhan waelod y llong o dan wydr, a chadw lleithder y gofod yna o dan 20%. Ar ôl i'r gwaith cadwraeth orffen, fe "ail-lansiwyd" y llong ym mis Orffennaf 2005 fel atyniad twristiaid ac amgueddfa. Mae'r safle'n denu dros 150,000 ymwelwr y flwyddyn.[9]