Lleddir mwy o bobl drwy eu saethu gyda gynnau yn Unol Daleithiau America nag unrhyw wlad arall ar y blaned; gelwir y digwyddiadau hyn yn saethu torfol.[1][2][3][4][5] Diffinnir "saethu torfol" fel arfer pan fo dros pedwar o bobl wedi'u lladd, heb gynnwys y saethwr ei hun.[6][7] Rhwng 1967 a 2017 cafwyd 146 digwyddiad o'i fath, gyda chyfartaledd o wyth o bobl yn cael eu lladd ym mhob digwyddiad (gan gynnwys y saethwr).[8] Fel arfer mae'r saethwr naill ai'n saethu ei hun neu'n cael ei ladd gan yr heddlu, ar adegau prin, caiff ei ddal gan yr heddlu.[9]
Rhwng 2011 a 2017 cododd y nifer y digwyddiadau hyn o saethu torfol yn UDA dair gwaith cymaint. Ar gyfartaledd, erbyn 2014 roedd saethu torfol yn cyrmryd lle bob 64 diwrnod yn UDA.
Pam fod cymaint o lofruddiaethau torfol gyda gynnau yn yr Unol Daleithiau?