Saets y waun | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Lamiales |
Teulu: | Lamiaceae |
Genws: | Salvia |
Rhywogaeth: | S. pratensis |
Enw deuenwol | |
Salvia pratensis L. |
Perlysieuyn blodeuol rhwng 1 - 1.5 metr o daldra ydy Saets y Waun, Clari'r Maes neu Clais y moch (Lladin: Salvia pratensis; Saesneg: Meadow Clary). Mae'n tyfu yn Ewrop, gorllewin Asia a gogledd Affrica. Mae'n hoff iawn o dyfu mewn caeau agored neu mewn cloddiau neu ar ymyl coedwig.
Tua 2 cm yw pob blodyn a cheir clystyrau o rhwng 4 a 6 ohonynt a rheiny yn un o amryw o liwiau megis fioled, porffor, glas, pind neu las golau. Mewn parau gyferbyn â'i gilydd mae'r dail a hynny ar waelod y coesyn - tua'r 15 cm cyntaf - gan fynd yn llai wrth fynd yn uwch. Mae saets y waun yn cael ei fagu'n aml gan osodwyr blodau.
Cur moriatur homo cui Salvia crescit in horto? medd yr hen ddywediad Lladin: "Pam ddylai dyn farw, os oes ganddo saets yn ei ardd?" Defyddid llawer o wahanol fathau o saets ers canrifoedd gan eu bod mor bwerus fel perlysiau rhinweddol. Fe'u defnyddir fel te yn America fwy nag yn Ewrop, bellach, yn enwedig i gadw tymheredd claf i lawr ac i atal person rhag chwysu.[1]
Defnyddir y saets hefyd ar gyfer gwella doluriau, briwiau a blorod ar y croen ac ar gyfer gwella gwynegon (cricmala) a sciatica.
GOFAL: Ni ddylai merched beichiog ei yfed na'i fwyta gan y gall effeithio cyhyrau'r groth.
"Brenin llysiau meddyginiaeth!" medd Ann Jenkins yn ei llyfr Llysiau Rhinweddol. Gwyddom fod y Rhufeiniaid yn meddwl cryn dipyn o'r planhigyn hwn. Mae ar gael drwy gydol y flwyddyn ac felly'n handi iawn fel tonig cyffredinol, yn gwella cylchrediad y gwaed misglwyf afreolaidd neu'r darfyddiad (menopause). Dwy neu dair deilen ffres mewn dŵr berwedig - a dyna ni! Dylid yfed y ddiod ddwywaith yr wythnos. Credir hefyd fod rwbio dail saets ar eich dannedd yn eu gwynu.[2]