Math | anheddiad dynol, pentref model |
---|---|
Ardal weinyddol | Shipley |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gorllewin Swydd Efrog (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 20 ha |
Cyfesurynnau | 53.8372°N 1.7903°W |
Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd |
Manylion | |
Pentref model Fictoraidd yn Shipley, Gorllewin Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, ydy Saltaire.[1] Fe'i lleolir mewn ardal di-blwyf ym mwrdeistref fetropolitan Dinas Bradford. Gan fod y lle o bwysigrwydd hanesyddol fel enghraifft ardderchog o bentref diwydiannol sydd wedi goroesi bron yn gyfan gwbl, mae ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd ers 2001.[2]
Adeiladwyd Saltaire ym 1851 gan Syr Titus Salt, un o brif ddiwydianwyr diwydiant gwlân Swydd Efrog. Mae enw "Saltaire" yn gyfuniad o gyfenw'r sefydlydd ac enw Afon Aire, sy'n llifo drwy'r pentref. Mae'r pentref hefyd wedi'i leoli ar Gamlas Leeds a Lerpwl a wasanaethodd Salts Mill, melin wlân Titus Salt. O amgylch y felin adeiladodd Salt dai cerrig taclus ar gyfer ei weithwyr, golchdai, ymolchdai, ysgol, ysbyty, elusendai, rhandiroedd, parc a thŷ cychod. Roedd yna hefyd sefydliad ar gyfer hamdden ac addysg, gyda llyfrgell, ystafell ddarllen, neuadd gyngerdd, ystafell filiards, labordy gwyddoniaeth a champfa.