Seiclwr rasio trac Cymreig ydy Samuel James "Sam" Harrison (ganwyd 24 Mehefin 1992).[1]
Daw Harrison o Rhisga, Casnewydd. Roedd ei ffrindiau wedi rhoi cynnig ar reidio'r trac yng Nghasnewydd, a oedd yn newydd ar y pryd, felly rhoddodd Harrison gynnig arni hefyd. Roedd yn 13 oed,[2] a chyn bo hir, dechreuodd rasio gyda chlwb "Cwmcarn Paragon". Dewiswyd ef i fod yn aelod o Raglen Datblygu Olympaidd British Cycling yn 2008. Mae'n anelu at gymryd rhan yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2012.[3]
Cafodd Harrison ei enwebu ar gyfer gwobr Personoliaeth Chwaraeon Iau'r Flwyddyn y BBC yn 2008.[1][4] Dewiswyd ef i gynyrchioli Prydain ym Mhencampwriaethau Cyclo-cross y Byd ym mi sChwefror 2009.[5]
Ym mis Mehefin 2009, cafodd chwech o feiciau eu dwyn o gatref y teulu. Roeddent yn werth tua 12 mil o bunnau, ac yn cynnwys beic tîm unigryw pinc llachar Planet-X nad yw ar gael i'w brynu. Bydd yn ceisio cael ei ddewis i gystadlu ym Mhencampwriaethau Iau Ewrop yn 2009.[4]
Mae Harrison yn mynychu Coleg Gwent yn Crosskeys.[5]