Math | cymuned |
---|---|
Prifddinas | San Buono |
Poblogaeth | 861 |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Nawddsant | Buono |
Daearyddiaeth | |
Sir | Talaith Chieti |
Gwlad | Yr Eidal |
Arwynebedd | 25.27 km² |
Uwch y môr | 470 metr |
Yn ffinio gyda | Carpineto Sinello, Furci, Gissi, Liscia, Palmoli, Fresagrandinaria |
Cyfesurynnau | 41.9833°N 14.5667°E |
Cod post | 66050 |
Pentref a chymuned (comune) yw San Buono (Sànde Buòne yn Abruzzo) yn nhalaith Chieti yn rhanbarth Abruzzo, yr Eidal. Mae'n rhan o Gymuned Fynyddig Canol Vastese.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y gymuned boblogaeth o 1,020.[1]
Mae gwreiddiau'r pentref yn deillio o castrum (Gair Lladinaidd o amser yr Ymerodraeth Rufeinig yn golygu adeilad, neu rhan o dir a ddefnyddir fel gwersyll gaerog filwrol) o'r X ganrif. Mi fu dan wrogaeth teulu bonheddig y di Sangro (yn wreiddiol o Ffrainc) ac yna'r Caracciolo. Yn agos i Ffynnon Santes Nicola daethpwyd o hyd i adfeilion cysegredig Eidalaidd. Daethpwyd o hyd i fannau cysegredig eraill yn ardal Vusco.Yn ystod yr Oesoedd Canol Cynnar, roedd San Buono yn bentref gyda thŵr (arferai teuluoedd cefnog yr amser adeiladu tyrrau fel statws symbolaidd). Yn Castellaro darganfuwyd beddau anthropomorffaidd, rhai sydd bellach wedi eu hatgyweirio.[2]
Yn y gorffennol, enw'r pentref oedd Sancti Boni neu Castrum Bonum, ac yna fe'i galwyd yn Sancto Bono cyn newid i'r new presennol.
Mae'r pentref o bosibl yn dyddio o gyfnod cyn y 15g. Nid yw'r castell yn bodoli mwyach. Adeiladwyd y pentref mewn arddull a reolwyd gan deulu'r Caracciolo yn y 15g, yn y cyfnod hwn arferant gau giât y porth, a leolwyd yn ôl pob tebyg rhwng y Palazzo Caracciolo ac eglwys San Lorenzo. Rhed prif strwythur strydoedd y pentref mewn crib ar hyd prif echel y bryn. Adeiladwyd La Porta de Piedi (Porth y Traed neu Borth San Angelo) o flaen y Palazzo Caracciolo, ac Eglwys San Lorenzo. Wrth ymyl yr Hen Ffynnon, mae adeilad crwn sydd heb fod yn rhy uchel, gyda muriau a beth all fod unai yn 'scarpo' (ffordd o adeiladu mur castell fel bod mur boliog yn ymgau tua'r tŵr ar y pen uchaf), ag felly'n rhan o fur amddiffynnol y pentref, neu a all fod yn adfail o 'dŷ eira' (neviera). Arferai tai eira gael eu llenwi ag eira o agoriad yn y to'n ystod gaeafau, ac yna byddai'r eira'n cael ei wasgu dan draed y tu fewn i'r adeilad y gadwyd iddo rewi.[3]
Mae wedi ei leoli yn Sgwâr G. Amicarelli ac mae'n dyddio o'r 14g; daw'r cyfeiriadau cyntaf ohoni o ddegawdau cyntaf y garnif honno. Yn ystod ei hoes mae wedi cael nifer o drawsffurfiadau a newidiadau ychwanegol yn ôl arddull y rhanbarth leol, a hefyd yn dilyn daeargrynfeydd. Mae rhai newidiadau yn dyddio rhwng 1744 a 1774. Gyda dyfodiad creiriau San Buono yn 1752 adeiladwyd y claddgell ac adeiladau eraill wedyn rhwng 1850 a 1855. Yn 1893 fe adnewyddwyd y clochdy. Yn 1942 addaswyd ffasâd yr adeilad ar arddull neo-romanésg. Mae ystrwythyr hynafol i'r ystlysluniau. Mae corff yr eglwys, ar arddull neo-glasrol, ac mae'r allor marmor yn dyddio o'r 18g. Mae pren amryliw i'r organ sydd wedi ei lleoli yn llwyfan y côr uwchben y fynedfa, o'r un cyfnod â'r allor.
Wedi ei leoli yn ardal Sant'Antonio ac yn dyddio o gyfnod rhwng 1500 ac 1575, mae'r eglwys yn gymharol fach gyda neuadd a naf. Mae ei hyd yn cyfateb i un ochr a chloestr o'r annedd byw. Yn ei chyfnod cynnar, roedd yno dalcen crwn/cromfan â fawt er bod naf bach y nenfwd mewn strwythyr ffrâm A (capriate)/ trawstiau. Ar y waliau roedd murluniau, ffresgoau, cysegrfannau, ac allorau a wnaed o bren.[5] Mae'r ffasâd wedi ei rannu tros dair lefel gan dair llain-gyrsiau, yn fertigol, mae'n cael ei rhannu'n dair rhan gan pedwar strip-pilastrau ac ar ochr yr eglwys mae cloch ar y talcen gyda pediment trionglog.[6]
Hyd at 2011, fe gartrefwyd yr Amgueddfa Celf ac Archeoleg yn Vastese, ac fe'i throsglwyddwyd ym Mehefin 2012 i Gastell Monteodorisio.
Wedi ei leoli ym Monte Sorbo, ar y ffîn â Carpineto Sinello mae olion hen ffynnon Santes Nicola. Yn 1986 fe'i dynodwyd yn leoliad gysegredig. Mae gwaith cloddio archeolegol wedi ei rannu yno i dri phwynt: parth y gromfan i'r gorllewin, parth draen/ffôs addunedol i'r gogledd-ddwyrain ac i'r gorllewin, strwythur dorri o odyn galch o'r amser ôl-glasurol, efallai capel neu strwythur ynghlwm â'r gysegrfa. Mae'r adeilad gromfannol yn cynnwys eglwys fach gyda'i sylfaen yn cyfeirio tuag at weddillion o hen allor. O fewn y waliau daethpwyd o hyd i golofn o garreg wedi ei naddu. Efallai cafodd yr adeilad sanctaidd ei hadfer yn ystod yr oes ymerodrol. Yn y cyfnod ôl-glasurol, fe honnir fod yr adeilad gromfannol Gristnogol bresennol wedi ei adeiladu tros adfeilion deml Bagannaidd. Mae tystiolaeth yn dangos fod yr eglwys wedi ei hadeiladu tros necropolis yn dyddio o'r oes yr haearn, o'r un lle cafwyd hyd i ddau fibulae (tlws) efydd. Credir fod y ffynnon a'r man cyfagos wedi eu hailddefnyddio ar gyfer addoli ar hyd yr oesoedd. Adferwyd nifer o wrthrychau offrymol o'r ffynnon gan gynnwys powlenni, cwpanau, a nifer o gwpanau a ddefnyddwyd i yfed y dŵr cysegredig. Hefyd cafwyd o hyd i wrthrychau efydd addunedol gan gynnwys ailgynyrchiadau o Hercules, ac amryw o arfau a gwrthrychau mewn terracotta yn darlunio anifeiliaid a rhannau anatomegol dynol, mwyaf tebyg yn ymwneud â chredoau iechyd. Credir fod adfeilion teml Italeg yn dyddio yn ôl at y III Ganrif OC tra bod y darganfyddiadau'n dyddio'n ôl i'r cyfnod rhwng y IV â'r gasrif gyntaf OC, mae'r rhan helaeth o'r gwrthrychau wedi cael eu dyddio rhwng y III â'r II ganrif OC.Mae rhan o'r darganfyddiadau yw gweld yn yr Amgueddfa yn Lleiandy Sant ' Antonio.
Sioeau a digwyddiadau o bwys yn San Buono:[7]