Sandra Maischberger | |
---|---|
Ganwyd | 25 Awst 1966 München |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, cyflwynydd teledu, cynhyrchydd ffilm, llenor, cynhyrchydd teledu, cyfarwyddwr teledu |
Cyflogwr | |
Priod | Jan Kerhart |
Gwobr/au | Croes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Hanns-Joachim-Friedrichs-Award, Gwobr Romy, Golden Schlitzohr, Deutscher Fernsehpreis, Bavarian TV Awards, Hildegard von Bingen Award, Gwobr Ernst Schneider, Goldene Kamera, Medienpreis für Sprachkultur, Goldene Kamera |
Awdur a chyflwynydd teledu o'r Almaen yw Sandra Maischberger (ganwyd 25 Awst 1966) sydd hefyd cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr a chynhyrchydd ffilm.
Fe'i ganed yn München ar 25 Awst 1966. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Ludwig Maximilian, Munich a Choleg Werner-Heisenberg.[1]
Treuliodd Maischberger bum mlynedd o'i phlentyndod yn Frascati, ger Rhufain, yr Eidal, a chafodd ei magu yn Garching, ger Munich. Roedd ei thad yn ffisegydd i Gymdeithas Max Planck ac roedd ei mam yn dywysydd teithiau.[2] Mae hi'n chwaer i Martin Maischberger, archeolegydd o'r Almaen.[2][3][4] Pan oedd yn ei harddegau, ei dewis gyrfa oedd fel milfeddyg neu'n dditectif. Rhwng 1987 a 1989 hyfforddodd yn Ysgol Newyddiaduraeth Ludwig Maximilian Prifysgol Munich.[4][5] [6][7][8]
Yn ystod ei chyfnod yn y brifysgol, dechreuodd Maischberger weithio yn y Bayerischer Rundfunk, darlledwr radio ym Munich, ac ers hynny mae wedi bod yn gweithio i wahanol orsafoedd teledu gan gynnwys Premiere, RTL, VOX, n-tv, ac ARD. O 1992, cymedrolodd 0137, sioe sgwrsio fyw, bob-yn-ail gyda Roger Willemsen.[5]
Mae Maischberger wedi ysgrifennu nifer o lyfrau gan gynnwys Hand aufs Herz (Llaw ar y Galon) (cyfweliad gyda Helmut Schmidt)[9] a Die musst Du kennen — Menschen machen Geschichte, sef gwyddoniadur (neu fywgraffiadur) o wyddonwyr, arlunwyr a gwleidyddion nodedig drwy'r oesau.[10]
Ers 2003, mae Maischberger wedi bod yn cymedroli sioe sgwrsio ar Das Erste. Yn 2009, ar achlysur 60 mlynedd sefydlu Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, cyfwelodd y Canghellor Angela Merkel.[11] Cymedrolodd Maischberger hefyd (ar y cyd gyda Maybrit Illner, Peter Kloeppel a Claus Strunz) yr unig ddadl etholiad teledu rhwng Merkel a'i gwrthwynebydd, Martin Schulz, cyn etholiadau 2017, a ddarlledwyd yn fyw ar bedair o sianeli teledu mwyaf poblogaidd yr Almaen.[12]
Dummerweise schrieb ich mich bei Kommunikationswissenschaften ein und schritt nach drei Tagen zur Exmatrikulation.