Santes Tudful | |
---|---|
![]() Santes Tudful, Eglwys Gadeiriol Llandaf | |
Ganwyd | Unknown ![]() Aberhonddu ![]() |
Bu farw | 480 ![]() Merthyr Tudful ![]() |
Man preswyl | Gwent ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | arweinydd crefyddol ![]() |
Dydd gŵyl | 23 Awst ![]() |
Tad | Brychan ![]() |
Santes a roes ei henw i dref Merthyr Tudful oedd Tudful (bu farw c. 480).[1]
Roedd Tudful yn un o 24 o ferched Brychan Brycheiniog.[2] Priododd Cynged ap Cadell Deyrnllwg ac roedd hi yn fam i Brochwel Ysgithrog ac yn famgu i Tysilio. Yn 480 roedd ar ei ffordd i ymweld â thad pan cafodd ei lladd "gan baganiaid" ger Merthyr Tudful.[1].
Fodd bynnag, gall 'merthyr' yn y Gymraeg olygu "eglwys (er cof am sant neu ar ei fedd)"; ceir enwau lleol tebyg eraill yn ne Cymru, e.e. Merthyr Cynog, Merthyr Dyfan a Merthyr Mawr, a cheir merther yn y Gernyweg a merzher yn Llydaweg hefyd, i gyd mewn enwau lleoedd.[3] Gall fod y hanes am ei lladd wedi datblygu fel ymgais i esbonio'r enw "Merthyr Tudful".
Bu yn santes poblogaidd gyda'r werin yn yr Oesoedd Canol ond ceisiodd yr Eglwys Catholig gwanychu cred y werin ynddi.
Ei dydd gŵyl yw 23 Awst.