Sarah Kane | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 3 Chwefror 1971 ![]() Brentwood ![]() |
Bu farw | 20 Chwefror 1999 ![]() o crogi ![]() Llundain, Ysbyty Coleg y Brenin ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | dramodydd, llenor, awdur ![]() |
Adnabyddus am | Blasted, Cleansed, 4.48 Psychosis ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Theatr Ewrop ![]() |
Dramodydd o Loegr oedd Sarah Kane (3 Chwefror 1971 - 20 Chwefror 1999) adnabyddus am ei dramâu sy'n delio â themâu cariad adferadwy ("redemptive love"), chwant rhywiol, poen, artaith — corfforol a seicolegol — a marwolaeth.
Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: Blasted, Cleansed a 4.48 Psychosis.
Nodweddir ei gwaith gan ddwyster barddonol, cynildeb diorchest, yr ymwchwilio parhaus am ffurf theatraidd newydd ac, yn ei gwaith cynharach, y defnydd o weithgareddau llwyfan eithafol a threisgar. Mae Kane ei hun, yn ogystal ag ysgolheigion fel Graham Saunders, yn nodi dylanwad theatr fynegiannol a thrasiedi Jacobeaidd.[1] Mae'r beirniad llenyddol Aleks Sierz wedi gweld ei gwaith fel rhan o theatr In-Yer-Face, math o ddrama a dorrodd i ffwrdd o gonfensiynau theatr naturiaethol. Mae llyfryddiaeth Kane yn cynnwys pum drama, un ffilm fer (Skin), a dwy erthygl papur newydd ar gyfer The Guardian.[2]
Fe'i ganed yn Brentwood, Essex a bu farw drwy hunanladdiad yn Llundain. Fe'i magwyd gan rieni efengylaidd, Cristnogol, ac roedd Kane yn Gristion ymroddedig yn ei harddegau. Yn ddiweddarach, fodd bynnag, gwrthododd y credoau hynny. Ar ôl mynychu Ysgol Uwchradd Shenfield, astudiodd ddrama ym Mhrifysgol Bryste, gan raddio yn 1992, ac aeth ymlaen i ddilyn cwrs MA mewn ysgrifennu drama ym Mhrifysgol Birmingham, dan arweiniad y dramodydd David Edgar.[1][3][4][5][6][7][8][9]
Dioddefodd Kane o iselder difrifol am flynyddoedd lawer ac fe'i derbyniwyd ddwywaith yn wirfoddol i Ysbyty Maudsley yn Llundain. Fodd bynnag, ysgrifennodd yn gyson drwy gydol ei bywyd fel oedolyn. Gweithiodd am gyfnod byr fel cyswllt llenyddol ar gyfer y Bush Theatre, Llundain. Yna, am flwyddyn bu'n ysgrifennydd preswyl i Paines Plow, cwmni theatr yn hyrwyddo ysgrifennu newydd, lle anogodd awduron eraill i fynd ati. [10][11][12]
Bu farw Kane yn 1999; ddeuddydd ar ôl cymryd gorddos o gyffuriau presgripsiwn, crogodd ei hun yn ei hystafelloedd mewn ystafell ymolchi yn Ysbyty Coleg y Brenin, Llundain.[13]