Sarah Storey

Sarah Storey
Ganwyd26 Hydref 1977 Edit this on Wikidata
Eccles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethseiclwr cystadleuol, nofiwr Edit this on Wikidata
PriodBarney Storey Edit this on Wikidata
Gwobr/auBonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auPodium Ambition Pro Cycling, Storey Racing Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeony Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata


Seiclwr a nofiwr o Brydain yw'r Fonesig Sarah Joanne Storey, DBE (née Bailey; ganwyd 26 Hydref 1977). Enillodd 19 o fedalau aur yn y Gemau Paralympaidd, a chwe gwaith pencampwr trac cenedlaethol Prydeinig (abl) (2 × Pursuit, 1 × Pwyntiau, 3 × Ymlid Tîm). Enillodd pum medal aur yn y Gemau Paralympaidd cyn troi’n 19 oed.

Mae hi’r Paralympiad Prydeinig mwyaf llwyddiannus (o fedalau aur) a mwyaf addurnedig (yn ôl cyfanswm medalau) erioed yn ogystal ag un o’r athletwyr Paralympaidd mwyaf addurnedig erioed.[1][2]

Ganed Storey ym Manceinion[3] heb law chwith oedd yn gweithio, ar ôl i'w braich fynd yn sownd yn y llinyn bogail yn y groth.[4] Fel merch ysgol, bu’n destun bwlio yn yr ysgol ac roedd hefyd yn wynebu problemau anhwylder bwyta.[5] Ymunodd â’i chlwb nofio cyntaf yn ddeg oed.[6]

Dechreuodd Storey ei gyrfa Baralympaidd fel nofiwr gan ennill dwy fedal aur, tair arian ac efydd yng Ngemau Olympaidd Barcelona ym 1992 yn 14 oed.

Priododd Storey y peilot tandem a'r hyfforddwr Barney Storey yn 2007.[7] Mae gyda nhw ferch (ganwyd 2013)[8][9] a mab (ganwyd 2017).[9] Mae hi a'i gŵr yn byw yn Disley, sir Gaer. [10] [3]

Yn dilyn Gemau Llundain 2012, fe’i penodwyd yn Fonesig Comander Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (DBE) yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2013 “am wasanaethau i bara-seic”.[11]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Ben Church. "Sarah Storey wins 15th Paralympic gold medal in Tokyo". CNN. Cyrchwyd 27 Awst 2021.
  2. "Sarah Storey saddles up in quest to be Britain's most-decorated Paralympian | Tokyo Paralympic Games 2020". The Guardian. Cyrchwyd 27 August 2021.
  3. 3.0 3.1 "Every little helps: Paralympic champ Sarah backs supermarket's campaign to stop families going hungry". Manchester Evening News. 4 Gorffennaf 2014.
  4. Bull, Andy (1 Hydref 2010). "Sarah Storey: From Paralympic swimmer to Commonwealth cyclist". Guardian (yn Saesneg). Llundain.
  5. "Dame Sarah Storey: How cyclist overcame bullying and eating disorder to become Britain's greatest female Paralympian". Sky News (yn Saesneg). Cyrchwyd 27 Awst 2021.
  6. "'I don't know if I would quite believe it'". BBC Sport (yn Saesneg). Cyrchwyd 27 Awst 2021.
  7. Moreton, Cole (1 Medi 2012). "Paralympics 2012: Golden couple powered by love". The Daily Telegraph (yn Saesneg). Llundain.
  8. Gripper, Ann (30 Mehefin 2013). "Sarah Storey celebrates birth of baby girl with husband Barney". Daily Mirror (yn Saesneg).
  9. 9.0 9.1 "Paralympian Dame Sarah Storey welcomes second child". ITV News. 20 October 2017. Cyrchwyd 26 August 2021.
  10. "Sarah Storey becomes first athlete to get four stamps" (yn Saesneg). BBC News. 6 Medi 2012. Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2012.
  11. "Order of the British Empire" (PDF) (yn Saesneg). Cabinet Office. 29 Rhagfyr 2012. Cyrchwyd 29 Rhagfyr 2012.