Satu Hassi | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 3 Mehefin 1951 ![]() Helsinki ![]() |
Man preswyl | Tampere ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Addysg | Licentiate of Technology ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, academydd, llenor ![]() |
Swydd | member of the Parliament of Finland, member of the Parliament of Finland, municipal councillor in Finland, member of the Parliament of Finland, Aelod Senedd Ewrop, Aelod Senedd Ewrop, Dirprwy Aelod Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, member of the Parliament of Finland ![]() |
Plaid Wleidyddol | Y Gynghrair Werdd ![]() |
Tad | Osmo Hassi ![]() |
Gwobr/au | Commander of the Order of the White Rose of Finland ![]() |
Gwefan | https://www.satuhassi.fi/ ![]() |
Gwleidydd o'r Ffindir yw Satu Hassi (ganwyd 3 Mehefin 1951) sydd hefyd yn academydd, yn awdur ac yn Aelod o Senedd Ewrop sy'n cynrychioli plaid 'Y Gynghrair Werdd' (VIHR, Ffineg: Vihreä liitto). Gwasanaethodd fel y Gweinidog dros yr Amgylchedd yn Llywodraeth y Ffindir rhwng 15 Ebrill 1999 a 31 Mai 2002,[1][2] ac ymddiswyddodd oherwydd penderfyniad y Llywodraeth i adeiladu 5ed atomfa niwclear. [3][4]
Bu Satu Hassi yn arweinydd ar ei phlaid rhwng 1999 a 2001 ac yn aelod o Lywodraeth y Ffindir rhwng 1991 a 2004. Gadawodd y Llywodraeth pan etholwyd hi i Senedd Ewrop, yr unig gynrychiolydd o Blaid Werdd y Ffindir yn 2004.
Fe'i ganed yn Helsinki ar 3 Mehefin 1951. Mae ganddi radd mewn technoleg, mae wedi gweithio fel peiriannydd mewn cwmni pŵer ac wedi dysgu ym Mhrifysgol Technoleg Tampere. Yn y 1970au bu'n aelod o'r Blaid Gomiwnyddol.[5]
hyd at 2019 roedd wedi cyhoeddi tair nofel, casgliad o gerddi a nifer o draethodau. Mae hi hefyd yn awdur ar gyfres o lyfrau ffiseg i fyfyrwyr ysgol uwchradd.