Sant Saturnin | |
---|---|
Merthyrdod Sant Saturnin, o ddogfen o'r 14c | |
Apostol at y Galiaid Esgob a Merthyr | |
Ganwyd | 3c O.C. Patras, Gwlad Groeg |
Bu farw | c. 257 O.C. Toulouse, Gâl (Ffrainc heddiw) |
Mawrygwyd yn | Yr Eglwys Gatholig a'r Eglwys Uniongred Ddwyreiniol |
Prif gysegr | Basilique St-Sernin, Toulouse |
Gwyliau | November 29 |
Symbol/au | Meitr esgob (math o gap), esgob yn cael ei lusgo gan darw |
Nawddsant | Toulouse, Ffrainc |
Un o'r "Apostolion a Ddanfonwyd at y Galiaid" oedd Saturninus (neu Saturnin) a wnaed yn sant fwy na thebyg gan y Pab Fabian rhwng 236 a 250.
Danfonodd Sant Fabian saith esgob o Rufain i geisio Cristioneiddio trigolion Gâl, sef y rhan orllewinol o Ewrop lle trigai'r Celtiaid. Danfonwyd y seintiau Gatien i Tours, Trophimus i Arles, Pawl i Narbonne, Saturnin i Toulouse, Denis i Paris, Austromoine i Clermont, a Sant Martial i Limoges. Dethlir ei ddydd gŵyl gan Gristnogion ar y 29 Tachwedd. Cymysgir ef yn aml gyda Sant Sadwrn a sefydlodd ddwy eglwys: Llansadwrn (Sir Gaerfyrddin) a Llansadwrn (Ynys Môn).
Adnabyddir Saturnin hefyd gyda'r enw Lladin 'Saturninus'; Occitaneg: Sarnin, Ffrangeg: Sernin, Catalaneg: Sadurní, Galisieg: Sadurninho, Portiwgaleg: Saturnino, Sadurninho, Basgeg: Satordi, Saturdi, Zernin, ac yn y Sbaeneg, galwyd ef yn Saturnino, Serenín, Cernín.
Ceir y cofnod cyntaf i Saturnius gael ei wneud yn Esgob Tolosa (Toulouse) - y cyntaf o'i fath - gan Gregory o Tours (c. 538 – 594) pan gyfeirir at ddogfen gynharach a gollwyd, sef "Gweithredoedd Saturnus".[1] Nododd y ddogfen hon ei linach lle dywedir ei fod yn fab i Aegeus, Brenin yr Achaea, a Cassandra ferch Ptolemi, sef Brenin Ninefeh. Dywedir hefyd iddo fyw yn y ganrif gyntaf, yn un o 72 disgybl Crist a dywedir iddo fod yn bresennol yn y Swper Olaf. Dylid derbyn llawer o hyn gyda phinsied fawr o halen, wrth gwrs. Tyfodd chwedloniaeth hefyd amdano; mae un chwedl yn mynnu i Sant Pedr ei wneud yn esgob.[2] ac mai ei gyfeillion oedd Papulus, Saturninus a Honestus fel disgybl iddo.