Mae'r term sba yn gysylltiedig gyda triniaeth yn defnyddio dŵr, a adnabyddir hefyd fel balneotherapi, trefi sba neu gyrchfan sba yn cynnig y driniaeth, y meddigyniaeth neu'r offer ar gyfer darparu'r driniaeth. Felly mae gan y derm amryw o ystyrau cysylltiedig.
Mae'r term yn tarddu o dref Spa, Gwlad Belg, lle cafodd afiechydon a achoswyd gan ddiffyg haearn eu trin drwy yfed dŵr tarddell chalybeate (yn cynnwys haearn), ers y canoloesoedd.[1] Bu adfywiad o syniadau Rhufeinig o ymolchi meddyginiaethol yn Lloegr yn ystod yr 16g, mewn trefi megis Caerfaddon, ac yn 1571 fe ddarganfyddodd William Slingsby, a oedd wedi ymweld a'r dref yng Ngwlad Belg (a elwodd ef yn Spaw), ffynnon chalybeate yn Swydd Efrog. Adeiladodd ffynnon amgaeedig ar y safle a ddaeth yn dref Harrogate yn ddiweddarach, dyma oedd cyrchfan cyntaf Lloegr ar gyfer yfed dŵr meddyginiaethol, fe elwodd Dr Timothy Bright y gyrchfan yn The English Spaw yn 1596, gan ddechrau defnydd Spa fel disgrifiad cyffredinol yn hytrach na enw lle. Roedd y term yn cyfeirio at gyrchfannoed dŵr yfed i gychwyn, ond daeth i olygu dŵr baddo yn raddol wrth i'r sbâu ddechrau cynnig meddyginiaeth allanol eraill.[2] Defnyddiwyd y ffurf Gymraeg "sba" yn gyntaf yn yr 20g.[3]