Defnyddid Scipio (lluosog Scipiones) fel cognomen gan nifer o Rufeinwyr o deulu'r Cornelii Scipiones:
- Publius Cornelius Scipio, tribwn conswlar 395 CC
- Lucius Cornelius P.f. Scipio, conswl 350 CC, efallai mab yr uchod
- Lucius Cornelius Cn.f. Scipio Barbatus, conswl 298 CC, efallai ŵyr yr uchod
- Gnaeus Cornelius Scipio Asina, conswl 260 CC, 254 CC; mab hynaf yr uchod
- Lucius Cornelius Scipio, conswl 259 CC, mab ieuengaf rhif 3
- Gnaeus Cornelius Scipio Calvus, conswl 222 CC, mab hynaf yr uchod
- Publius Cornelius Scipio, conswl 218 CC, ail fab rhif 5
- Publius Cornelius Scipio Africanus, y cadfridog enwog a orchfygodd Hannibal. Mab hynaf yr uchod
- Lucius Cornelius Scipio Asiaticus, conswl 190 CC, mab ieuengaf rhif 7
- Publius Cornelius Scipio Nasica, conswl 191 CC, mab rhif 6
- Gnaeus Cornelius Scipio Hispallus, conswl 176 CC, cefnder rhifau 8-10
- Publius Cornelius Scipio Africanus (awgwr), mab hynaf rhif 8
- Lucius Cornelius Scipio, praetor 174 CC, mab ieuengaf rhif 8
- Publius Cornelius Scipio Nasica Corculum, conswl 162 CC, 155 CC, mab rhif 10
- Publius Cornelius Scipio Aemilianus Africanus Numantinus (Scipio yr Ieuengaf, neu Scipio Aemilianus), mab mabwysiedig rhif 12
- Publius Cornelius Scipio Nasica Serapio, conswl 138 CC, mab rhif 14
- Publius Cornelius Scipio Nasica (conswl 111 CC), mab yr uchod
- Publius Cornelius Scipio Nasica, praetor 94 CC, mab yr uchod
- Lucius Cornelius Scipio Asiaticus Asiagenus, conswl 83 CC, disgynnydd rhif 9
- Quintus Caecilius Metellus Pius Cornelianus Scipio Nasica (Metellus Scipio), conswl 52 CC, mab gordderch rhif 16