Sebastian Coe | |
---|---|
![]() | |
Llais | Sebastian Coe - Desert Island Discs - 13 December 2009.flac ![]() |
Ganwyd | 29 Medi 1956 ![]() Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, rhedwr pellter canol, hunangofiannydd, cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd ![]() |
Swydd | World Athletics President, London Organising Committee of the Olympic and Paralympic Games, President of the Olympic Organizing Committee, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, member of the International Olympic Committee ![]() |
Taldra | 176 centimetr ![]() |
Pwysau | 54 cilogram ![]() |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol ![]() |
Tad | Peter Coe ![]() |
Mam | Tina Angela Lall ![]() |
Priod | Nicola Elliott, Carole Smith ![]() |
Plant | Madeleine Rose Coe, Harry Sebastian Newbold Coe, Peter Henry Christopher Coe, Alice India Violet Coe ![]() |
Gwobr/au | KBE, Cydymaith Anrhydeddus, Gwobr Chwaraeon Tywysoges Astwrias, Olympic Order, Bislett medal, L'Équipe Champion of Champions, Gwobr Personoliaeth y Flwyddyn, BBC ![]() |
Chwaraeon |
Cyn-athletwr Seisnig a gwleidydd Ceidwadol yw Sebastian Newbold Coe, Baron Coe, KBE (ganed 29 Medi 1956), a adnabyddir fel Seb Coe.[1] Roedd Coe yn rhedwr pellter canol, enillodd bedwar medal Olympaidd, gan gynnwys yr aur yn ras 1500 metr Gemau Olympaidd yr Haf 1980 ac 1984, gan osod wyth record y byd tu allan a tri dan do. Bu hefyd yn aelod o dîm ras gyfnewid a dorrodd record y byd. Domineiddwyd rhedeg pellter canol yr 1980au gan y gystadleuaeth rhyngddo ef a'i gyd-athletwyr Steve Ovett a Steve Cram.[2]
Wedi ymddeol o chwaraeon, daeth Coe yn Aelod Seneddol Ceidwadol o 1992 hyd 1997, gan ddod yn arglwydd am oes yn 2000. Ef oedd yn arwain y cais dros Lundain i gynnal Gemau Olympaidd yr Haf 2012, ac wedi i'r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol wobrwyo Llundain gyda'r Gemau, daeth Coe yn gadeirydd ar Bwyllgor Trefnu Gemau Olympaidd Llundain. Yn 2007, etholwyd yn is-lywydd Cymdeithas Ryngwladol Ffederasiynau Athletau, gan gael ei ail-ethol am dymor pedair blynedd arall ar 25 Awst 2011.[3]
Ganed Coe yn Chiswick, Llundain. Bu farw ei fam, Tina Angela Lal, yn Hammersmith a Fulham, Llundain, yn 2005, yn 75 mlwydd oed. Roedd yn hanner Indiaidd, yn ferch i dad Punjabi, Sardari Lal, a mam Seisnig, Vera Swan.[4] Bu farw ei dad, Peter Coe (ganed Percy N. Coe yn Kingston-upon-Thames), ar 9 Awst 2008, ym 88 mlwydd oed, tra roedd Coe yn Beijing.[5]
Magwyd Coe yn Sheffield a mynychodd ysgolion Tapton[6] a Abbeydale Grange. Ymunodd â thîm athletau Hallamshire Harriers pan oedd yn 12 oed, a buan y dechreuodd arbenigo mewn rhedeg pellter canol. Roedd yn fwyaf adnabyddus am gynrychioli Prifysgol Loughborough, a Haringey yn ddiweddarach, pan nad oedd yn cynrychioli'i wlad.[7]
Cafodd ei hyfforddi gan ei dad, a gynlluniodd ymarferion yn arbennig ar gyfer ei fab. Astudiodd Coe economeg a hanes cymdeithasol ym Mhrifysgol Loughborough, gan ennill ei ras gyntaf o bwys ym 1977, sef ras 800 metr yn y Pencampwriaethau Ewropeaidd Dan Do yn San Sebastián, Sbaen. Tra yn y brifysgol y cwrddodd â George Gandy a ddatblygodd ymarferion cyflyru arloesol er mwyn gwella rhedeg Coe.[8]
Pellter | Amser | Dyddiad |
---|---|---|
400 m | 46.87 | 1979 & 45.5 mewn ras gyfnewid (1979) |
800 m | 1:41.73 | 1981 |
1000 m | 2:12.18 | 1981 |
1500 m | 3:29.77 | 1986 |
Mile | 3:47.33 | 1981 |
2000 m | 4:58.84 | 1982 |
3000 m | 7:54.32 | 1986 |
5000 m | 14:06.2 | 1980 |