Sefydliad Materion Cymreig

Sefydliad Materion Cymreig
Enghraifft o'r canlynolsefydliad, sefydliad elusennol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1987 Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolsefydliad elusennol Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.iwa.wales/ Edit this on Wikidata

Sefydliad annibynnol yng Nghymru, yn seiliedig ar aelodaeth a heb fod ynghlwm wrth unrhyw grŵp gwleidyddol neu economaidd, sy'n ceisio ysgogi gwelliannau ym mywyd Cymru yw'r Sefydliad Materion Cymreig (Saesneg: The Institute of Welsh Affairs; IWA). Mae'n enghraifft prin o felin drafod Gymreig.

Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar wleidyddiaeth, diwylliant ac economi Cymru, a thechnoleg a gwyddoniaeth yn y wlad, gyda'r amcan o ddatblygu cynigion i "wella a newyddu polisi" a hyrwyddo meddwl newydd ar faterion Cymreig. Mae'r sefydliad yn cyhoeddi sawl adroddiad ar ei ymchwil, yn cyhoeddi'r bwletin agenda, ac yn trefnu seminarau a chynhadleoedd i annog trafodaeth ar y pynciau a godir.

Cafodd ei sefydlu yn 1985 gan Geraint Talfan Davies, mab y llenor Aneirin Talfan Davies. Yn 1996, cyflogwyd y cyfarwyddwr llawn amser cyntaf, John Osmond. Yn Ebrill 2013 fe'i olynwyd gan gyfarwyddwr newydd, Lee Waters.[1] Etholwyd Waters fel aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn Mai 2016 a sefodd lawr fel cyfarwyddwyr. Yng Ngorffennaf 2016 penodwyd Auriol Miller fel cyfarwyddwyr newydd i ddechrau ei gwaith yn hydref 2016.[2]

Mae gan y SMC tua 1,200 aelod unigol a 150 aelod corfforaethol, a 100 Cymrawd. Mae'n gwmni ac yn elusen gofrestredig. Mae'r aelodau corfforaethol yn cynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, BBC Cymru, Nwy Prydain, Cyngor Dinas Caerdydd, Dur Corus, Deloitte, Eversheds, Banc Julian Hodge, Banc yr HSBC, ITV Wales, Ymddiriedolaeth Elusennol Joseph Rowntree, S4C, Dŵr Cymru a Prifysgol Cymru.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  Sefydliad Materion Cymreig - Hanes. Sefydliad Materion Cymreig. Adalwyd ar 29 Mai 2016.
  2. Sion Barry. The Institute of Welsh Affairs appoints Auriol Miller as its new director , WalesOnline, 29 Gorffennaf 2016. Cyrchwyd ar 19 Gorffennaf 2016.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.