Seion

Gair a ddefnyddir i ddynodi gwlad Israel neu ddinas Jeriwsalem yw Seion (Hebraeg: צִיּוֹן, tziyyon). Ceir llawer cyfeiriad at Seion yn y Beibl; yn aml maen cyfeirio at Mynydd Seion, bryn gerllaw Jeriwsalem lle roedd caer yn perthyn i'r Jebiwsiaid, a gipiwyd gan y brenin Dafydd.

Daeth "Seion" i olygu'r rhan o'r ddinas lle safai'r gaer, ac yn ddiweddarach i olygu Teml Solomon, y ddinas neu Wlad yr Addewid yn gyffredinol. Rhoddodd Seion ei enw i Seioniaeth, mudiad i greu a chynnal gwladwriaeth i'r Iddewon yn Israel. Sefydlwyd y mudiad Seionaidd yn Awst 1897 yn y Gyngres Seionaidd Ryngwladol gyntaf yn Basel yn y Swistir.

Ceir cyfeiriad yn anthem genedlaethol Israel, yr Hatikva:

A hyd ymylon y Dwyrain, ymlaen,
Mae llygad yn gwylio i Seion ...
Gobaith dwy fil o flynyddoedd,
I fod yn genedl rydd yn ein gwlad ein hunan,
Y wlad Seion a Jeriwsalem.

Yng Nghymru, daeth Seion, neu weithiau Mynydd Seion, yn boblogaidd iawn fel enw ar gapeli Anghydffurfiol. Trwy hyn daeth yn enw ar nifer o bentrefi bychain, er enghraifft Capel Seion yn Sir Gaerfyrddin; ceir hefyd bentref bychan Seion gerllaw Bangor.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]