Enghraifft o: | mudiad diwylliannol ![]() |
---|---|
Math | Seioniaeth ![]() |
Cainc o Seioniaeth yw Seioniaeth Ddiwylliannol (Hebraeg: ציונות רוחית, trawslyth. Tsiyonut ruchanit, cyf..‘Seioniaeth Ysbrydol’). Canolbwyntiodd ar greu canolfan ym Mhalesteina hanesyddol gyda’i diwylliant Iddewig seciwlar a’i hanes cenedlaethol ei hun, gan gynnwys iaith a gwreiddiau hanesyddol, yn hytrach na syniadau Seionaidd eraill megis Seioniaeth Wleidyddol. Sylfaenydd Seioniaeth Ddiwylliannol yw Asher Ginsberg, sy'n fwy adnabyddus fel Ahad Ha'am. Gyda'i weledigaeth seciwlar o "ganolfan ysbrydol" Iddewig ym Mhalesteina (Gwlad Israel), fe aeth wyneb yn wyneb â Theodor Herzl . Yn wahanol i Herzl, sylfaenydd Seioniaeth wleidyddol, ymdrechodd Ha'am dros “wladwriaeth Iddewig ac nid gwladwriaeth Iddewon yn unig” [1]
Yn wreiddiol, gwelodd Ahad Ha'am broblemau mewn Iddewiaeth yn ystod y 19g. a chwiliodd am ffyrdd o adfywio'r gymuned grefyddol a'r grefydd ei hun i adfywio diddordeb y sawl oedd yn arddel Iddewiaeth, yn enwedig ymhlith pobl ifainc.[2] Gwelodd genedlaetholdeb fel ffordd o ailgysylltu'r Iddewon ag Iddewiaeth, gan gyflwyno syniadau ynghylch sefydlu gwladychfeydd yng Ngwlad Israel (Palesteina) yn llawn o siaradwyr Hebraeg hyddysg gydag ymlyniad canolog at Iddewiaeth.[3] Ystyriodd Wlad Israel a'r iaith Hebraeg fel rhannau annatod o'r etifeddiaeth genedlaethol Iddewig, ac nid o reidrwydd o bwys crefyddol.[4]
Credai fod Theodor Herzl, y newyddiadurwr Iddewig o Awstria oedd yn gefnogwr i Seioniaeth wleidyddol, yn naïf i awgrymu ei bod yn bosibl creu gwladwriaeth Iddewig mewn unrhyw ran arall o'r byd.[5] Nid oedd Ahad Ha'am ychwaith yn ymddiried mewn gwledydd eraill i helpu i wireddu'r nod Seionaidd o greu gwladwriaeth Iddewig ym Mhalesteina, nac yn unman arall o ran hynny. Pwysleisiodd Ahad HaAm “hunanddibyniaeth Iddewig” dros unrhyw egwyddor arall, yn ogystal â chynllunio gofalus mewn seilwaith ac adeiladu sylfaen Iddewig yn y Wlad Sanctaidd.[6]
Cydnabu Ahad Ha'am y byddai'r ymdrech i sicrhau annibyniaeth wleidyddol yng ngwlad Israel yn dod â'r Iddewon i wrthdaro â'r boblogaeth Arabaidd frodorol, yn ogystal â'r Otomaniaid a'r pwerau trefedigaethol Ewropeaidd a oedd yn llygadu'r wlad iddynt eu hunain. Yn lle hynny, ei gynnig ef oedd y dylai pwyslais y mudiad Seionaidd symud tuag at ymdrechion i adfywio’r iaith Hebraeg a chreu diwylliant newydd, yn rhydd o ddylanwadau negyddol y Diasopora. Byddai hyn yn uno'r Iddewon ac yn gwasanaethu'n ddolen gyffredin rhwng y cymunedau Iddewig amrywiol.[7] Prif nod Seioniaeth Ddiwylliannol Ahad Ha'am oedd sefydlu canolfan ysbrydol newydd ar gyfer y genedl Iddewig, nad oedd o reidrwydd yn gofyn am sefydlu gwladwriaeth Iddewig, ond a oedd yn gofyn am sicrhau mwyafrif Iddewig yn ei chartref cenedlaethol. [8] Credai Ahad Ha'am y byddai sicrhau hunaniaeth seciwlar yn caniatáu i genedl Iddewig gyfoethog ei diwylliant ymffurfio.[9]
Cydiodd y syniad ymhlith pleidwyr Seioniaeth wleidyddol a daeth yn brif ffocws Sefydliad Seionaidd y Byd ar ôl ei chweched gyngres ym 1903. Yn sgil marwolaeth Herzl, daeth Ahad Ha'am yn brif arweinydd Sefydliad Seionaidd y Byd ynghyd â Chaim Weizmann, a rhoddodd hwb i'r mudiad Seionaidd gyda'i syniadau am adfywio'r iaith Hebraeg, sefydlu gwladychfeydd Iddewig ym Mhalesteina, ac atgyfodi cenedlaetholdeb ymhlith Iddewon y Diaspora.[10]
Dilynwr amlycaf y syniad hwn oedd Eliezer Ben-Yehuda, ieithydd a oedd wedi penderfynu adfywio'r Hebraeg fel iaith lafar ymhlith yr Iddewon.[11] Roedd y rhan fwyaf o Iddewon Ewropeaidd yn y 19eg ganrif yn siarad Iddeweg, iaith a seiliwyd ar Almaeneg yr Oesoedd Canol gydag elfennau o Hebraeg, yr ieithoedd Romawns, a'r ieithoedd Slafig. Ond o'r 1880au ymlaen, dechreuodd Ben Yehuda a'i gefnogwyr hyrwyddo'r defnydd o ffurf fodern o Hebraeg y Beibl, nad oedd wedi bod yn iaith lafar fyw am bron i 2,000 o flynyddoedd. Er gwaethaf ymdrechion Herzl i gael yr Almaeneg yn iaith swyddogol y mudiad Seionaidd, mabwysiadwyd y defnydd o Hebraeg fel polisi swyddogol gan sefydliadau Seionaidd ym Mhalesteina, a gwasanaethodd fel grym uno pwysig ymhlith y gwladychwyr Iddewig. Newidiodd llawer ohonynt yr enwyd a roddwyd iddynt gan eu teulu am enwau Hebraeg newydd.
Ceisiodd Seionwyr diwylliannol eraill greu ffurfiau celf Iddewig newydd, gan gynnwys y celfyddydau graffig. (Boris Schatz, arlunydd o Fwlgaria, a sefydlodd Academi Celfyddydau a Dylunio Bezalel yn Jerwsalem ym 1906.) Bu eraill, megis y dawnsiwr a'r artist Baruch Agadati, yn meithrin gwyliau poblogaidd megis carnifal Adloyada adeg Purim .
Mae rhai Iddewon Americanaidd wedi dod o dan ddylanwad Seioniaeth Ddiwylliannol gan ganolbwyntio ar greu cymuned ysbrydol yn America nad yw'n gysylltiedig yn benodol ag endid gwleidyddol.[12]
Deuai beirniaid Seioniaeth Ddiwylliannol Ahad Ha'am o nifer o gyfeiriadau o fewn y prosiect Seionaidd. Roedd gwrthwynebiad i ideoleg Ha'am yn aml yn blaenoriaethu gweithredu gwleidyddol, camau ymarferol tuag at fod yn wladwriaeth, a heriau sefydlu gwladwriaeth Iddewig. Gwrthwynebodd y Seionydd gwleidyddol Theodor Herzl syniadau Ha'am am adfywiad diwylliannol, [13] gan flaenoriaethu'r brys am weithredu gwleidyddol a sefydlu gwladwriaeth Iddewig fel ateb uniongyrchol i wrthsemitiaeth. Yn debyg i weledigaeth wleidyddol Herzl, cynigiodd arlywydd cyntaf Israel, Chaim Weizmann, gamau ymarferol tuag at wladwriaeth Iddewig ac roedd yn wyliadwrus o ymagwedd ddiwylliannol Ahad Ha'am. Honnodd y dylai sefydliadau corfforol ym Mhalesteina gael blaenoriaeth dros adnewyddiad ysbrydol, oedd yn angenrheidiol ar gyfer gweithgaredd gwleidyddol Iddewig ffyniannus. [14] Yn ogystal, heriodd yr arweinydd gwleidyddol a phrif weinidog cyntaf Israel, David Ben-Gurion ymarferoldeb Seioniaeth Ddiwylliannol, gan ganolbwyntio ar y broses bragmatig o godi gwladwriaeth.[15] Er bod Ben-Gurion yn cytuno â Ha'am ynghylch pwysigrwydd adfywiad diwylliannol, roedd ei syniadau'n amrywio o ran mynd i'r afael â'r rhwystrau uniongyrchol a oedd yn atal Gwladwriaeth Iddewig.
Enillodd credoau Ahad Ha'am gefnogaeth gan Iddewon oedd yn cefnogi'r syniad o ddatrysiad dwygenhedlol ac nad oeddent o reidrwydd yn cytuno â holl athrawiaeth Seioniaeth Wleidyddol. Roedd gan lawer o Iddewon amheuon ynghylch dadleoli trigolion Arabaidd brodorol Palesteina ac roeddent yn cefnogi'r syniad o wladwriaeth ddwygenhedlol unedig lle byddai'r Arabiaid a'r Iddewon yn byw gyda'i gilydd.[16] Roedd gan Seioniaeth Ddiwylliannol apêl wrth geisio darparu llwyfan a oedd yn blaenoriaethu cadw hunaniaeth, treftadaeth a diwylliant Iddewig. Apeliodd pwyslais Ahad Ha'am ar ddatblygu diwylliant, llenyddiaeth ac addysg Hebraeg at lawer o Iddewon oedd am gynnal eu hunaniaeth Iddewig, tra oeddent byw yn y Diaspora.[17]